Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 46

Llanynys

Eglwys Sant Saeran

Eglwys Sant Saeran yw un o eglwysi mwyaf deniadol a rhyfeddol yr ardal. Saif mewn pentref tawel sy’n cynnwys tafarn ac ambell dy. Eto i gyd, hon oedd mam-eglwys de Dyffryn Clwyd, a bu, ar un adeg, yn gartref i ‘glas’ (sef cymuned grefyddol Gymraeg), a sefydlwyd efallai yn y 6ed ganrif ac y gysegrwyd i’r esgob-sant Saeran na wyddys llawer amdano bellach (gweler hefyd Ffynnon Sarah Safle 7).

Y nodwedd hynaf sy’n perthyn i’r eglwys bresennol yw’r porth gorllewinol sy’n dyddio o’r 13eg ganrif; nid yw’n cael ei ddefnyddio mwyach ac mae wedi ei orchuddio ag eiddew. Gellir ei weld wrth i chi fynd i mewn i’r fynwent brydferth gyda’i choed yw hynafol. Mae’r rhain yn creu rhodfa i’r porth mawreddog o goed sydd wedi ei gerfio’n gain ac sy’n dyddio o gyfnod y Tuduriaid; gwelir y dyddiad 1544 (mewn Lladin) uwchben y porth sy’n dyddio o gyfnod ychydig yn gynharach.

Mae’r tu mewn yn fawr ac mae hyn yn gydnaws â phwysigrwydd yr eglwys ar un adeg ac â’i chysylltiadau agos ag Esgobion Bangor, a fu’n berchen arni am gyfnod maith. Mae ganddi ddau gorff, fel cynifer o eglwysi Sir Ddinbych, ynghyd â dau do gwych â thrawstiau gordd sy’n dyddio o ddiwedd y Canol Oesoedd. Mae’r pileri rhychiog o goed rhwng y ddau gorff yn fwy anghyffredin ac yn llawer mwy diweddar, gan eu bod yn dyddio o gyfnod yr adnewyddu ym 1768.

Yn union gyferbyn â’r drws y mae prif ogoniant Eglwys Sant Saeran, sef murlun anferth o’r 15fed ganrif o Sant Cristopher. Ail-ddarganfuwyd y murlun canoloesol hwn o dan y plastr ym 1967 – dyma’ un gorau o ddigon yng Ngogledd Cymru. Yn ôl y chwedl, yr oedd y sant yn gawr a weithiai fel fferïwr ac fe’i dangosir yn cario’r baban Iesu ar draws afon, gyda gwialen flodeuog yn ei law a haig o bysgod o gwmpas ei draed. Sant Christopher (sef ‘cariwr Crist’) yw nawddsant teithwyr a châi ei beintio’n aml gyferbyn â drysau eglwysi, lle y gallai teithwyr ei weld ar unwaith a thrwy hynny credid na fyddent yn ‘perlewygu nac yn syrthio’ yn ystod y diwrnod hwnnw. Mae’r gred yn parhau ar ffurf cylchau allweddi a bordiau blaen ceir heddiw.

Gerllaw’r peintiad y mae dau drysor canoloesol arall: beddrod-ddelw tolciog o offeriad sef, o bosibl, yr Esgob ap Richard o Fangor (a fu farw yma ym 1267) a gallai’r ffigur o esgob meitrog ar y garreg chweochrog gynrychioli Sant Saeran ei hun. Ymddengys fod y ffigur bychan, gyda’i ffon fugail yn ei law, yn sefyll ar ben arth penffrwynog ac ar ochr arall y garreg y mae llun o’r croeshoeliad. Hyd yn ddiweddar, safai yn y fynwent, o bosib yn dynodi bedd y sant neu gysegrfan: dywedir ei fod yn dyddio o’r 14eg ganrif, ond gallai fod yn llawer hyn na hyn.

Ceir llawer mwy o ryfeddodau yma. Yn eu plith y mae paneli diddorol o gyfnod Elizabeth ger yr allor sy’n cynnwys bwystfilod a phlanhigion cerfiedig, rhyfedd a ddaeth o Fachymbyd Fawr, gerllaw, sef cartref y Cyrnol Cafalîr William Salesbury, ‘Yr Hen Hosanau Gleision’ o Gapel Rug (Safle 11) a Chastell Dinbych (Safle 32). Gosodwyd mwy o waith coed cerfiedig o’r hen gorau yn seddau’r côr ac y mae tri chanhwyllyr, dau ohonynt wedi eu gwneud o goed o’r cyfnod Sioraidd ac un o bres o’r cyfnod Fictoraidd. Ceir byrrdau elusen Cymraeg a Saesneg, arfbais frenhinol beintiedig fawr o gyfnod Siarl II a hyd yn oed feel cwn brin (mewn câs gwydr) a ddefnyddid i ddal ac i gael gwared ar gwn afreolus o’r eglwys.

Bydd y llawlyfr yn gymorth i ymwelwyr edrych o gwmpas a mwynhau’r eglwys hyfryd hon.

Mae’r eglwys ar agor yn ystod y bore tan ddiwedd y prynhawn fel arfer.

Tafarn

Nol i'r top

Esgob Meitrog, Llanynys