Safle 42
Bodfari
Eglwys Sant Steffan
Saif twr mawr canoloesol Eglwys San Steffan yng nghanol y pentref a gellir gweld golygfeydd hardd o’r fynwent. Ailadeiladwyd corff yr eglwys ym 1865. Bu Bodfari’n arhosfan Rufeinig o bosibl, ac ar un adeg bu’n enwog yn sgil ffynnon sanctaidd Sant Deifar, lle y trochid plant deirgwaith, ‘er mwyn eu rhwystro rhag crïo yn ystod y nos’. Yn ôl awdurdodau sobr mae’r ffynnon hon wedi hen ddiflannu bellach, ond cred optimistiaid mai hon yw’r un a welir y Mar y Ffynnon yn y Dinorben Arms. Fodd bynnag, anogir rhieni i beidio â throchi eu plant yno!
Agorir yr eglwys ar gyfer grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw yn unig. Mae taflen am y plwyf ar gael. Cysyllter â’r Rheithordy. Caerwys 01352 720223.
Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol
Eglwys Sant Steffan, Bodfari