Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 40

Tremeirchion

Eglwys Corff Crist a Ffynnon Sant Beuno

Mae Tremeirchion – ‘Din Meirchion’ yn wreiddol, sef caer Meirchion y pennaeth – yn bentref prydferth ar odre Bryniau Clwyd sy’n edrych dros weddill y dyffryn. Ger yr eglwys brydferth, sydd rhwng ysgol y pentref a’r dafarn, mae ywen 800 mlwydd oed, ac ar un adeg bu’r eglwys yn enwog oherwydd croes wyrthiol. Mae’n dyddio o’r 14eg a’r 15fed ganrif yn bennaf ac erys nifer o nodweddion hynafol. Ymhlith y nodweddion hynaf, y mae maen-groes blethedig o’r 13eg ganrif i Hunyd, gwraig Carwed, ar ffurf sedd yn y porth. Y tu mewn i’r hen ddrws cain y mae dwy ffenestr y festi’n dangos mosaig o wydr lliw da o ddiwedd y canol oesoedd, sy’n cynnwys pen eurgylchog y Santes Ann, mam y Forwyn Fair. Mae ffenestr ddeheuol ger y pulpud yn dangos portreadau anghyffredin o wydr lliw sy’n dyddio o’r 17eg ganrif (o’r hen ficerdy). Mae’r potreadau’n cynnwys Iago I, Siarl I a John Williams, o Ogledd Cymru a ddaeth yn Esgob Lincoln ac yn Archesgob Efrog, ac a fu’n ymladd dros y Brenin ac o blaid y Senedd yn ystod y Rhyfel Cartref.

Yn estyniad transept y gogledd (a ychwanegwydd adeg adnewyddu’r eglwys ym 1864), y gorwedd marchog mewn crys haearn o tua 1280; mae’n gorwedd â’i goesau wedi ei croesi a’i gleddyf yn ei law. Effallai mai’r nodwedd fwyaf trawiadol yw’r beddrod mawr â chanopi sy’n dyddio o’r 14eg ganrif sy’n sefyll ger yr allor; dyma feddrod yr offeiriad Dafydd ap Hywel ap Madog, a adwaenid fel Dafydd Ddu Athro o Hiraddug’. Yr oedd y ficer hwn yn enwog fel bardd, awdur ac (yn ôl y traddodiad) fel proffwyd ac mae’n gorwedd o dan fwa pigfain cain, ar feddrod sy’n dangos tariannau herodrol teuluol a symbolau eraill ‘n gysylltiedig â’r croeshoeliad (mae côr o’i flaen yn plygu ymlaen i ddatgelu’r trysorau hyn). Ymhlith nodweddion hynod diweddarach y mae cist Sioraidd gain, cloch law y plwyf ar gadwyn, llechfaen i Hester Thrale, sef ffrind Dr Johnson, awdur enwog y ‘Dictionary’.

Saif Brynbella, plasty Mrs. Thrale (preifat) sy’n dyddio o’r 18fed ganrif, islaw’r pentref, y tu ôl i wal hir o garreg ger y B5429. Gyferbyn â’i glwyd isaf, mewn lloc o garreg ger ty llwyd a leolir mewn pant, y mae Ffynnon Beuno, a oedd yn enwog am iacháu ar un adeg. Llifa’r dwr allan o geg pen sydd wedi ei gerfio’n fras o garreg, yn union fel petai’n ceisio pwysleisio’r cysylltiad a oedd rhwng ffynhonnau sanctaidd a’r cwlt-pennau Celtaidd paganaidd; ni wyddys dyddiad y pen cerfiedig hwn.

Mae’r eglwys ar agor yn ystod dyddiau’r wythnos drwy drefniant ymlaen llaw. Cysyllter â’r Deondy (01745) 583597.

Tafarn

yn ôl i coppa

Ffynnon Sant Beuno, Tremeirchion