Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 38

Diserth

Eglwys y Santes Ffraid a Sant Cwyfan

Ystyr ‘Diserth’ yw ‘man anghyfannedd, meudwfa’ – efallai mai dyma feudwyfa Sant Cwyfan o Sir Ddinbych, ac iddo ef, yn ogystal ag i’r Santes Ffraid o Kildare, Iwerddon, y cysegrwyd yr eglwys. Y Santes Ffraid a anrhydeddid fwyaf ymhlith y santesau Celtaidd. Mae’n ddiau fod yr eglwys gyntaf yma wedi datblygu o gell y meudwy: fe’i cofnodir yn Llyfr Domesday ym 1087 a mwy na thebyg nad yw’r Groes Geltaidd gerllaw, sydd bron yn gyfan (ac a gedwir y tu mewn i’r adeilad bellach) yn llawer diweddarach na’r dyddiad hynnw. Roedd yn un o bâr o groesau – dim ond gwaelod y llal sy’n wedill – ac y mae wedi’i cherfio’n gain gyda chylchoedd a phatrymau plethog.

Saif eglwys bresennol mewn llecyn braf ar lethrau Moel Hiraddug ychydig gamau o raeadr ysblennydd Diserth. Fe’i hailadeiladwyd yn helaeth ym 1873 – 5 gan Gilbert Scott, y pensaer Fictoraidd enwog. Mae rhan o’r to yn Elisabethaidd (cerfiwyd 1579 ar drawst) ac y mae cofeb o’r 15fed ganrif i ddau farchog sy’n frodyr yno yn ogystal. Ond prif drysor canoloesol Diserth yw’r ffenestr wydr ddwyreiniol, sy’n perthyn i ddau gyfnod. Mae’r rhan rwyllog uchaf (sy’n perthyn i tua 1450) yn dangos y deuddeg apostol, pob un yn cyfleu’r priodoledd sy’n perthyn iddo fel y gallai pobl anllythrennog eu hadnabod. Yn y darn uchaf ar y dde, er enghraifft, gwelir Ioan yr Efengylydd gyda’i bren olewydd a’i gwpan cymun.

Dengys prif ran y ffenestr ‘Goeden Jesse’, neu goeden achau, Crist. Rhoddwyd hon yn y 1530au, sy’n ei gwneud yn gwbl gyfoes â’r Goeden Jesse yn Llanrhaeadr (Safle 30); mae ei harddull yn gwbl wahanol fodd bynnag. Gwelir hynafiaid brenhinol Crist, wedi’u coroni, yn cario teyrnwialen ac yn gwisgo’u gynau, ymhlith coedwig o ddeiliach euraid; yn y canol ar y pen uchaf (uwchben y Brenin Dafydd a’i delyn), gwelir y Forwyn Fair a’r babn Iesu’n edrych dros bawb, yn ymddangos o lili ynghanol pelydrau’r haul. Yn anffodus, fodd bynnag, mae’r ffigur o Jesse’n huno ar goll o baneli isaf y ffenestr.

Mae’n werth crwydro’r fynwent yn ogystal, yn enwedig er mwyn gweld y ddau feddrod o’r 17eg ganrif ger y goeden fawr y tu ôl i’r eglwys. Mae’r ddau fedd yn nodweddiadol o’r ardal ac y maent ar ffurf beddrodau bwrdd cwflog. Mae llawlyfr defnyddiol ar gael ar gyfer yr eglwys a’r pentref.

Safai Castell Diserth ar gopa bryn hanner milltir i’r gogledd-ddwyrain ar un adeg. Fe’i codwyd gan y Saeson ym 1241 yn lle, nei i atgyfnerthu, caer Twthill yn Rhuddlan (Safle 36). Fe’i dinistriwyd gan Lywelyn ein Llyw Olaf yn fuan wedyn ac ychydig iawn o weddillion sydd yno heddiw.

Mae’r eglwys ar agor Sadwrn a’r Sul 2.00 pm - 4.00 pm o benwythnos olaf Gorffennaf tan 30 Awst. Ar agor hefyd 8.00 – 9.00 pm Mercher o 27 Mai tan 9 Medi. Hefyd, Sul y Pasg, Llun y Pasg, Gwyl Fai, Gwyl Banc y Gwanwyn 2.00 – 4.00 pm.

Atyniad twristaiddTafarnSiopSwyddfa'r PostGarej/PetrolCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

yn ôl i coppa


Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

Ffenestr liw ddwyrainiol, Diserth

Pistyll Diserth

Eglwys y Santes Ffraid a Sant Cwyfan, Diserth