Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 36

Rhuddlan

Daeth Rhuddlan – sef ‘lan rudd’ (= coch) oherwydd cochni pridd glan yr afon – yn hanesyddol bwysig oherwydd ei lleoliad ger hen groesfan afon Clwyd: roedd y sawl a feddiannai’r rhyd yn rheoli’r ffordd orau ar gyfer goresgyn Gogledd Cymru. Felly, am gyfnod o bum canrif bu Rhuddlan yn fflachbwynt yn rhyfeloedd y Saeson a’r Cymry; yn ei dro bu’n safle’r frwydr fawr rhwng y Brenin Offa o’r Mers a’r Cymry, yn fwrdeistref gaerog i’r Sacsoniaid, yn llys i dywysogion Cymru, yn gaer Normanaidd, (y ‘Twthill’), ac yn olaf, yn gastell cadarn o garreg.

Castell Rhuddlan

Dechreuwyd codi Castell Rhuddlan ym 1277, a dyma brif drysor canoloesol y dref. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer y Brenin Edward I gan y pensaer enwog, James o St George, a hwn oedd y cyntaf o’r caerau consentrig chwyldroadol – yn eu plith Conwy, Harlech a Biwmares – a gododd Edward er mwyn amgylchu Gogledd Cymru a’i rheoli. Yn hytrach na’r gorthwr traddodiadol, mae ei amddiffynfeydd yn cynnwys tri chylch consentrig o amddiffynfeydd. Cadarnle ar ffurf diemwent yw’r cylch mewnol, a’r un mwyaf trawiadol, gyda phyrth dau-dyrrog mewn dwy gornel a thyrrau unigol crwn yn y corneli eraill. Y tu hwnt i hwn ceir cylch allanol o furiau tyredog is, a’r tu hwnt i hwn ceir ffos ddofn syd wedi ei chysylltu ag afon Clwyd.

Trwy gampwaith peirianyddol canoloesol, felly, trawsnewidiwyd yr afon araf, droellog hon yn sianel ddofn i’r môr fel y gallai llongau Edward ddod â nwyddau i’r castell adeg gwarchae. Cymerodd tua saith deg o gonsgriptiaid o’r Lincolnshire Fens dair blynedd i gwblhau’r sianel ddwy filltir o hyd gyda llaw.

Wedi hynny, daeth Castell Rhuddlan yn bencadys i oresgyniad Cymru gan Edward I ym 1282. Yn ôl y fersiynau hynaf o’r hanes, yma, ac nid yng Nghaernarfon, y cyhoeddodd ei fab bychan (‘a aned yng Nghymru, a heb yn gair o Saesnog’) yn Dywysog Seisnig Cyntaf ar Gymru. Yn sicr, cafodd Statud Rhuddlan, a sefydlodd gyfansoddiad Cymru ddiwedd y canol oesoedd, ei chyhoeddi yma gan senedd a gynhaliwyd yma ym 1284.

Tomen Twthill

Fodd bynnag, dim ond un elfen o dreftadaeth ganoloesol Rhuddlan yw castell mawr y Brenin Edward. O gerdded ychydig (ar hyd y llwybr) byddwch yn dod ar draws tomen drawiadol o bridd o’r enw ‘Twthill’ – ‘bryn gwylio’. Ar un adeg fe’i coronid gan dwr o goed a hwn oedd cadarnle’r gaer Normanaidd a oedd yma cyn caer Edward. Fe’i codwyd ym 1073 gan Robert o Ruddlan, ac yn ôl y traddodiad, safai ar safle hen lys Cymreig. Wrth droed y domen yr oedd lloc â ffens o’i gwmpas a’r tu hwnt i hwn yr oedd tref gaerog Normanaidd wedi ei hamgylchynu â ffos. Yr oedd yma briordy’r Dominiciaid, sef y ‘brodyr duon’, ac y mae rhai o’i adeiladau’n rhan o Fferm yr Abaty (preifat).

Y dref ganoloesol ddiweddarach

Pan adeiladodd Edward ei gastell newydd, sefydlodd dref newydd i’r gogledd o’i gaer yn ogystal. Mae ei phatrwm gwreiddiol o strydoedd ar ffurf grid – y Stryd Fawr bresennol, sy’n cael ei chroesi gan Strydoedd y Castell a’r Eglwys a Stryd y Senedd a Stryd Gwindy – yw calon Rhuddlan hyd heddiw, a gellir gweld rhai o’i ffosydd amddiffynnol o hyd rhwng Lôn y Ficerdy a Rhodfa Kerfoot. Ar gornel y Stryd Fawr a Stryd y Senedd saif y Senedd-dy (yn ôl y sôn) – efallai mai llys canoloesol y dref oedd hwn er bod yr arysgrif arno’n honni iddo fod yn senedd-dy.

Eglwys y Santes Fair

Sefydlwyd Eglwys y Santes Fair tua 1300 i wasanaethu’r gymuned newydd. Ddwy ganrif yn ddiweddarach, dyblwyd ei maint trwy ychwanegu ail gorff, gan ei throi’n eglwys dau gorff sy’n nodweddiadol o Ddyffryn Clwyd, ac ychwanegwyd twr. Yn ddiweddarach byth, ym 1820, ychwanegwyd beddrod caerog ar yr ochr ogleddol, sef lle diogel i gladdu teulu Plas Bodrhyddan (Safle 37). Er iddi gael ei hadnewyddu’n sylweddol ym 1868, erys nodweddion cynharach y tu mewn iddi, yn eu plith destunau Cymraeg o’r 17eg ganrif, sydd wedi eu peintio’n uchel ar furiau’r gogledd a’r dehau. Yn ogystal, gwelir cofebau o’r 13eg a’r 14eg ganrif (yng nghefn yr ystlys ddeheuol yn bennaf) a ddaeth o’r hen ffreierdy yn Fferm y Abaty. Yr hynotaf o’r rhain (ger yr allor) yw’r maen sydd wedi ei engrafu i’r Brawd William de Freney, sy’n gwisgo’i regalia fel Archesgob teitlog ‘Rages’ neu Edessa (yn Nhwrci heddiw).

Mae llyfryn rhagorol am y castell a’r dref gan CADW ar gael yn y castell a gellir cael taflen gynhwysfawr i Eglwys y Santes Fair o’r eglwys.

Mae’r eglwys ar agor bob prynhawn Iau yn ystod yr haf. Gellir ymweld yn ystod y gwasanaethau hefyd. Mae’r castell ar agor Mai – Medi, 10.00 am – 5.00 pm bob dydd. Codir tâl mynediad.

TafarnSiopSwyddfa'r PostGarej/PetrolCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

yn ôl i coppa

Tomen Twthill

Atgynhyrchaid o Gastell Tomen a Beili Twthill: CADW