Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 35

Llanelwy

Mae gan Lanelwy, y ddinas fechan yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, wreiddau hynafol iawn. Pa un a oedd caer Rufeinig ‘Varae’ yma ai peidio, mae’n sicr bod y safle’n cael ei anheddu tua 560 gan Sant Cyndeyrn, mab yr arwr Arthuraidd, Owain ab Urien; daethai o’r Alban yn wreiddiol a gorfodwyd iddo ffoi o’r wlad honno. Dywedir i bron fil o fynachod ymgasglu o gwmpas y ffigur carismataidd hwn, a adwaenid hefyd gan ei lysenw o gyfnod ei blentyndod, ‘Mungo’ (‘anwylaf’) fel nawddsant Glasgow. Pan ddychwelodd yno, ymddiriedodd y fynachlog yng Nghymru i ofal ei hoff ddisgybl, dyn lleol o’r enw Asaph. Gydag amser, daethpwyd i adnabod yr eglwys ar lan afon Elwy fel St. Asaph yn Saesneg; mae ei hanes parhaus fel esgobaeth yn dyddio o 1143.

Eglwys Gadeiriol Llanelwy

Hon yw’r gadeirlan hynafol leiaf yng Nghymru a Lleogr – dim ond 182 troedfedd o hyd ydyw, ac mae’n llai, er enghraifft, nag eglwys Glyn y Groes. Dioddefodd lawer gan ei bod mor agos at lwybr y goresgynwyr i Ogledd Cymu. Dechreuwyd ei chodi tua 1239, ond fe’i llosgwyd yn ddifrifol gan filwyr Edward I ym 1282; fe’i hailgodwyd yn sylweddol rhwng 1284 a 1381 ond llosgwyd hi unwaith eto gan wrthfelwyr Owain Glyndwr ym 1402; cafod ei hatgyweirio ar ddiwedd y 15fed ganrif, a’i hail-fodelu’n llwyr gan y pensaer Fictoraidd, Gilbert Scott, ym 1867 -75.

Yr hen sydd gennym heddiw yw’r gragen sy’n dyddio’n bennaf o’r 14eg ganrif ynghyd â nifer o newidiadau sy’n dyddio o’r cyfnod Fictoraidd. Y nodweddion canoloesol mwyaf trawiadol y tu mewn yw pileri a bwâu anarferol y prif gorff, sy’n ymdoddi i’w gilydd heb i bennau piler darfu arnynt. Tadogir yr efaith hon, sydd braidd yn llym, ar seiri maen o Gastell Caernarfon a oedd yn fwy cyfarwydd â phensaernïaeth filwrol. Mae’n cyfrannau llawer at ‘urddas a mawredd’ (Dr. Johnson) ‘y gadeirlan gref a dwys Gymreig hon’ (Hubbard).

Mae corau’r canoniaid ger y brif allor – yr unig gorau â chanopi yng Ngogledd Cymru – yn gwrthgyferbynnu â hyn gan eu bod wedi eu haddurno a’u cerfio’n gain. Maent yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif, pryd y cyrhaeddodd cerfio coed ei anterth yn lleol. Enghraifft arall o waith cerfio cain yw bedd yr Esgob Anian II, a ddechreuodd y gwaith mawr o ail godi’r eglwys ym 1284. Mae’r bedd yn gorwedd yn ystlys y prif gorff deheuol, ger ‘Carreg y Milgi’, gyda’i filgi, ysgyfarnog, tarian a chleddyf, sy’n gofeb i farchog o tua 1330.

Cofir hefyd am gyfieithwyr y Beibl Cymraeg a’r Llyfr Gweddi Cyffredin, gwaith a oedd yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg, yn eu plith yr Esgob William Morgan, ac offeiriaid eraill o Lanelwy. Arddangosir argraffiadau Cymraeg cynnar yn y transept gogleddol a gwelir Cobef i’r Cyfieithwyr ar lawnt y Gadeirlan.

Mae prif stryd hen ddinas Llanelwy yn rhedeg i lawr y bryn o’r gadeirlan tuag at afon Elwy, heibio i nifer o hen dai; mae tu blaen y tai hyn wedi eu diweddaru i raddau helaeth. Ar y gwaelod y mae eglwys blwyf Sant Cyndeyrn a Sant Asaph, adeilad dau gorff sy’n dyddio o ddiwedd y canol oesoedd, gyda thu mewn atyniadol. Mae pileri gosgeiddig yn gwahanu’r ddau brif gorff, ac mae eu ffenestri dwyreiniol yn wahanol iawn, ond perthyn i’r ddau doeon o drawstiau gordd cain; addurnir to’r ystlys deheuol, sy’n hyn na’r llall, gydag angylion. Wrth ymyl yr allor, y mae sinc biscina ddwbl brin ar gyfer golchi’r llestri sanctaidd.

Mae’r eglwys gadeiriol ar agor bod dydd 7.30 am – 6.00 pm fel arfer; mae’n cau am 4.30 pm yn ystod y gaeaf. Agorir eglwys Sant Cyndeyrn ar ddyddiau’r wythnos trwy drefniant ymlaen llaw. Cysyllter â’r Deondy. (01745 583597).

Atyniad twristaiddTafarnSiopSwyddfa'r PostGarej/PetrolCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

yn ôl i coppa

Eglwys blwyf Sant Cynderyn a Sant Asaph

Willaim Morgan, Cofeb y Cyfieithwyr, Cadeirlan Llanelwy

Engrafiad o Lanelwy, dyddiedig 1860: Archifdy Sir Ddinbych