Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 32

Dinbych

Y prif reswm dros fodolaeth Dinbych yw’r creigiau serth y mae’r castell a’r hen dref yn sefyll arnynt. Yma, yn edrych i lawr dros ddyffryn llydan afon Clwyd y safai cartref a chadarnle tywysogion Cymru, dyma brif dref cantref Rhufoniog. Yr oedd gan Lywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf lys yma ac oddi yma, ym 1282, y dechreuoedd Dafydd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf y rhyfel a arweiniodd at oresgyniad terfynol Edward I dros Ogledd Cymru. Bellach, nid oes dim ar ôl o’r gaer wreiddiol (din = caer amddiffynnol + bych = bach). Fe’i meddiannwyd gan y Saeson yn ystod hydref 1282, ac fe’i disodlwyd gan y cadarnle presennol.

Safle 32a

Castell Dinbych

Mae Castell Dinbych ymhlith y cestyll mwyaf a’r mwyaf trawiadol yng Nghymru, eto i gyd mae ymhlith y rhai y gwyddys leiaf amdanynt. Fe’i codwyd ar gyfer Henry de Lacy, Iarll Lincoln, y cadlywydd o Sais y rhoddwyd y safle iddo gan y Brenin Edward I. Dechreuwyd ar y gwaith o’i godi ym 1282, a bwriadwyd iddo fod yn rhan o gylch o gaerau a godwyd gan Edward o gwmpas canoldir Gogledd Cymru (fel Rhuthun a Rhuddlan), ac yn ddiau, fe’i cynlluniwyd gan bensaer enwog y brenin, James o St. George. Cafodd y gwaith ei rwystro pan feddiannwyd y gwaith ar ei hanner gan wrthryfel newydd gan y Cymry ym 1294 a chymerodd bron ddeng mlynedd ar hugain i’w gwblhau. Yn ôl traddodiad lleol, rhoddwyd y gorau i gaboli’r adeilad ar ôl i fab ifanc de Lacy syrthio i’w farwolaeth yn ffynnon y castell.

Mae’r gaer yn cynnws wal gaeëdig gadarn a amddiffynnir gan saith twr a phorth mawr, gydag amddiffyniad ychwanegol y dref gaerog (gweler isod), sydd wedi ei hadeiladu ar weddill copa’r bryn. Ar yr ochrau deheuol a gorllewinol, lle y mae’r llethr fwyaf serth, sef yr ochrau hawsaf i’w hamddiffyn, mae’r tyrrau plaen hanner-crwn yn fach – er bod ochr hon y castell wedi cael ei hatgyfnerthu gan fantellan allanol ar ôl iddi gael ei meddiannu ym 1294. Ond ar yr ochrau gogleddol a dwyreiniol – sy’n wynebu’r dref a’r tir a oedd yn fwy gwastad ac yn fwy peryglus o safbwynt ymosodiad – roedd y tyrrau’n amlochrog ac yn llawer cadarnach. Y cryfaf ohonynt oedd y porth, sy’n parhau’n fynedfa i’r castell. Yma mae tri thwr wythochrog gyda’i gilydd yn gorchuddio rhodfa a amddiffynnid gan bont godi yn wreiddiol, agennau saethau, ‘tyllau lladd’, tri phorthcwlis, y naill ar ôl y llal, a dau bâr o ddrysau’n agor allan. Mewn cilfach uwchben y glwyd allanol saif cofeb wedi’i herydu – i’r brenin Edward I mwy na thebyg.

Brwydr olaf y castell

Daeth cyfnod castell Dinbych i ben yn ystod y Rhyfel Cartref. Erbyn hynny yr oedd y dref gaerog wag yn rhan o amddiffynfeydd y castell, er bod y ddau wedi dirywio’n sylweddol bellach. Er hynny, llwyddodd y Cyrnol Brenhinol oedrannus, William Salesbury – ‘Yr Hen Hosanau Gleision’ o Rug (Safle 11) – i wrthsefyll yn ddewr warchae a barhaodd am chwe mis ym 1646. Canolbwyntiodd byddin y Senedd eu hymosodiadau aflwyddiannus ar Dwr y Coblyn yn y gobaith y byddent yn torri cyflenwad dwr y castell: gellir gweld yn y caeau chwarae islaw y cloddiau gwarchae a godwyd er mwyn amddiffyn eu magnelau. Dim ond pan nad oedd unrhyw obaith o gael cymorth – ac nid tan iddo dderbyn gorchymyn ysgrifenedig gan y Brenin – yr ildiodd ‘Yr Hen Hosanau Gleision’.

Gellir cael taflen sy’n disgrifio pedair taith gerdded o gwmpas o dref o’r Llyfrgell. Yn ogystal, y mae llawlyfr rhagorol i’r castell a’r hen dref gan CADW.

Gellir gweld mwyafrif y safleoedd o’r tu allan. Mae’r castell ar agor Mawrth – Gwener, 10.00 am – 5.00 pm. (ar agor Gwyliau’r Banc). Penwythnos 9.30 am - 5.00 pm. Mynediad am ddim i’r gerddi ar adegau rhesymol yn ystod y gaeaf.

Atyniad twristaiddTafarnSiopSwyddfa'r PostGarej/PetrolCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

yn ôl i coppa

Atgynhyrchiad o Gastell Dinbych fel yr edrychai ym mlynyddoedd cynnar y 14eg ganrif CADW

Engrafiad o Ddinbych o flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif

Y Cyrnol Salesbury, 'Yr Hen Hosannau Gleision': Trwy ganiatad caredig Nancy, y Fonesig Bagot