Safle 32

Dinbych

Y prif reswm dros fodolaeth Dinbych yw’r creigiau serth y mae’r castell a’r hen dref yn sefyll arnynt. Yma, yn edrych i lawr dros ddyffryn llydan afon Clwyd y safai cartref a chadarnle tywysogion Cymru, dyma brif dref cantref Rhufoniog. Yr oedd gan Lywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf lys yma ac oddi yma, ym 1282, y dechreuoedd Dafydd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf y rhyfel a arweiniodd at oresgyniad terfynol Edward I dros Ogledd Cymru. Bellach, nid oes dim ar ôl o’r gaer wreiddiol (din = caer amddiffynnol + bych = bach). Fe’i meddiannwyd gan y Saeson yn ystod hydref 1282, ac fe’i disodlwyd gan y cadarnle presennol.

.

Brwydr olaf y castell

Daeth cyfnod castell Dinbych i ben yn ystod y Rhyfel Cartref. Erbyn hynny yr oedd y dref gaerog wag yn rhan o amddiffynfeydd y castell, er bod y ddau wedi dirywio’n sylweddol bellach. Er hynny, llwyddodd y Cyrnol Brenhinol oedrannus, William Salesbury – ‘Yr Hen Hosanau Gleision’ o Rug (Safle 11) – i wrthsefyll yn ddewr warchae a barhaodd am chwe mis ym 1646. Canolbwyntiodd byddin y Senedd eu hymosodiadau aflwyddiannus ar Dwr y Coblyn yn y gobaith y byddent yn torri cyflenwad dwr y castell: gellir gweld yn y caeau chwarae islaw y cloddiau gwarchae a godwyd er mwyn amddiffyn eu magnelau. Dim ond pan nad oedd unrhyw obaith o gael cymorth – ac nid tan iddo dderbyn gorchymyn ysgrifenedig gan y Brenin – yr ildiodd ‘Yr Hen Hosanau Gleision’.

Gellir cael taflen sy’n disgrifio pedair taith gerdded o gwmpas o dref o’r Llyfrgell. Yn ogystal, y mae llawlyfr rhagorol i’r castell a’r hen dref gan CADW.

Gellir gweld mwyafrif y safleoedd o’r tu allan. Mae’r castell ar agor Mawrth – Gwener, 10.00 am – 5.00 pm. (ar agor Gwyliau’r Banc). Penwythnos 9.30 am - 5.00 pm. Mynediad am ddim i’r gerddi ar adegau rhesymol yn ystod y gaeaf.

Engrafiad o Ddinbych o flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif

Y Cyrnol Salesbury, 'Yr Hen Hosannau Gleision': Trwy ganiatad caredig Nancy, y Fonesig Bagot