Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 31

Dinbych

Eglwys Plwyf Llanfarchell

Adwaenir Llanfarchell fel yr Eglwys Wen oherwydd ei waliau allanol gwyngalchog gwreiddiol mwy na thebyg a hon yw’r eglwys odidocaf o holl eglwysi plwyf canoloesol Sir Ddinbych. Dywedir bod ei nawddsant, Marchell Forwyn, wedi sefydlu ei meudwyfa ger ffynnon sanctaidd yma yn y 7fed ganrif, ac mae’n amlwg y câi’r safle ei anrhydeddu fel un arbennig o gysegredig. Er ei bod yn sefyll ar ei phen ei hun filltir o’r dref bresennol (ac ymhellach byth oddi wrth yr hen dref gaerog ger y castell), Llanfarchell fu eglwys plwyf Dinbych erioed. Fe’i hailgodwyd ar ffurf eglwys ddau gorff ar ddiwedd y 15fed ganrif, gyda thwr trawiadol ac amrediad ardderchog o ffenestri perpendicwlar mawr.

Yn wir, mae’r tu mewn i’r eglwys yr yn mor drawiadol â’r tu allan ac fe’i llenwir â golau sy’n llifo trwy’r ffenestri mawr hyn. Ceir pileri canolog main a bwau sydd wedi eu mowldio’n gain ac mae’r rhain yn ymgodi’r bâr o doeon trawstiau gordd, sydd wedi eu panelu a’u haddurno ag angylion. Maent yn gorwedd ar gorbelau o garreg gyda bwystfilod a mwy o angylion cerfiedig, a ffris o garreg sydd wedi ei addurno’n gain â blodau a phennau a grotesgu – bachgen yn tynnu cynffon asyn, llwynog ac ysgarfarnog – oll wedi eu hail-baintio mewn arddull fywiog yn ddiweddar.

Islaw, ger y ddwy allor, y mae cofebau i enwogion Dinbych a Sir Ddinbych o Oes Elisabeth. Ar yr ochr ogleddol, mae Humphrey Lhuyd yn penlinio mewn teml Glasurol, gydag angylion yn dal glôb, a deial daearyddwr. Yn feddyg, yn gerddor ac yn Aelod Seneddol, yn ysgolhaig enwog ac yn ‘Dad Daearyddiaeth Fodern’, cynhyrchodd Lhuyd y mapiau cywir cyntaf o Gymru ychydig cyn iddo farw ym 1568. Gerllaw mae cofeb bres (sy’n brin yng Nghymru) yn portreadu Richard Myddelton (bu farw ym 1565) gyda’i wraig a’i un ar bymtheg o blant, saith ohonynt yn ferched sydd wedi eu gwisgo’n ffasiynol a naw mab. Daeth un o’r rhain, Syr Thomas Myddelton, yn Arglwydd Faer Llundain yn ddiweddarach a sefydlodd linach Castell Y Waun; bu mab arall, gor aur ac entrepreneur, Syr Hugh, yn gyfrifol am drawsnewid cyflenwad dwr Llundain, gyda’i brosiect ‘Afon Newydd’.

Bu’r allor ddeheuol, ar un adeg, yn gapel preifat i deulu grymus Salesbury – dyma sy’n cyfrif am geinder ei bwrdd cymun cerfiedig a’i rheiliau allor. Yma y saif y gofeb alabastr beintiedig ysblennydd o Syr John Salusbury (bu farw ym 1578) a’i wraig, y Fonesig Jane (Myddelton arall). Mae’n gorwedd mewn arfwisg, gyda’i gleddyf a’i gyllell hela – ac yn ei gwain ceir cyllell a fforc bychan: mae ei draed yn gorffwys ar anifail rhyfedd – nid ei filgi na’r ‘Bwystfil Caledfryn’ mytholegol, ond, yn syml, llew sydd wedi ei gerfio’n wael. Mae’r Fonesig Jane yn gwisgo’i ffrog weddw gyda’i rwff uchel, a’i thraed yn ymddangos o dan ei pheisiau stiff. O’u cwmpas saif eu naw mab (pob yn yn gwisgo arfwisg ac eithrio offeiriad mewn gwn du) a phedair merch; dangosir dwy a fu farw’n fabanod wedi eu rhwymo mewn cadachau.

Ar y wal gerllaw y mae’r gofeb i aeres olaf teulu Salusbury, gyda’i ‘chyfoeth mawr, a gafwyd yn onest, a fuddsoddwyd yn gall ac a reolwyd yn ddoeth’ ac yng nghefn yr eglwys y mae naw ‘arfbais’ – paneli herodrol ar ffurf diemwnt a gludid adeg angladdau bonheddwyr eraill o Sir Ddinbych. Y rhain oedd y bobl yr oedd Twm o’r Nant wrth ei fodd yn eu dychanu yn ei gerddi a’i anterliwtiau. Yn eironig, fe’i coffheir ef yn eu plith (yng nghefn yr ystlys chwith). Yn fardd ac actor hunan-ddysgedig, bu hefyd yn ffermwr, yn saer maen. Yn geidwad tolldy ac yn fethdalwr. Bu farw ym 1810 a gorwedd yn y fynwent lle y daw nifer i ymweld â’i fedd (ceir arwydd ato).

Mae’r eglwys ar agor ddydd Sadwrn cyntaf bob mis, 10.00 – ganol dydd, Pasg – Hydref.

yn ôl i coppa

Cofeb Humphrey Llwyd yn Eglwys Llanfarchell, Dinbych

Cofeb alabastr beintiedig ysblennydd,Eglwys y Santes Farchell

Eglwys Plwyf Llanfarchell

Manylion o'r gofeb

Manylion o feddrod alabastr ysblennydd, Eglwys y Santes Farchell