Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 30

Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch

Ffynnon Sanctaidd ac Eglwys Sant Dyfnog

Mae eglwys Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch yn bwysig iawn ymhlith eglwysi plwyf canoloesol Cymru. Perthyn iddi nifer annheg bron o atyniadau, gan ddechrau gyda’i lleoliad mewn pentref, sy’n cynnwys tafarn, gefail (sydd bellach yn grochendy), amrediad godidog o elusendai Sioraidd gwyngalchog, a glyn coediog nant fechan. Mae’r llwybr ger y twr yn ymdroelli gyda’r nant i fyny’r glyn at Fynnon Sanctaidd Sant Dyfnog – a dyma darddiad ei henw a’i chyfoeth canoloesol.

Yma, mae nant danddaearol yn llifo o lan greigiog, gan ddisgyn fel rhaeadr i gafn y ffynnon. Ac yma, yn ôl y traddodiad, y trigai Sant Dyfnog yn 6ed ganrif, yn cyflawni’i benyd trwy sefyll o dan y dwr yn gwisgo crys rhawn wedi ei gau â gwregys o gadwyn haearn. Rhoddai ei rinweddau rym iacháu gwyrthiol i’r dwr a fedrai wella nid yn unig ‘crachod a’r gosfa’ ond hefyd (yn ôl rhai) y frech wen a hyd yn oed fudandod a byddardod. Erbyn diwedd y canol oesoedd yr oedd ei ‘nant nerthol’ ymhlith yr enwocaf o ffynhonnau sanctaidd Cymru; denai nifer fawr o bereinion ac ysbrydolodd nifer o gerddi mawl. Dôi nifer helaeth o bobl yma hyd yn oed yn y 18fed ganrif, pryd y rhoddwyd llawr marmor i’r ‘baddon’ ac y codwyd ystafelloedd ymdrochi o’i chwmpas. Mae’r adeiladau hyn wedi diflannau, ynghyd â’r ffigurau dynol bychain a’u haddurnai: ond mae’r rhaeadr a’r baddon yn parhau, yn ogystal ag offrymau pererinion y ffynnon (y tu mewn i’r eglwys).

Yn wir, gallai’r eglwys ddau gorff a ailgodwyd yn y canol oesoedd fod yn ganlyniad i’r offrymau hyn. Ceir mynediad iddi drwy’r porth o goed sydd wedi ei addurno’n gain â cherfwaith o tua 1530 gyda chilfach ar gyfer delw coll o Sant Dyfnog yn coroni’r cyfan. Y tu mewn, gellwch weld ar unwaith drysor canolesol hynod Llanrhaeadr: ffenestr Coeden Jesse fawr, ddisgair, a ddisgrifiwyd fel ‘y Ffenestr Wydr orau yng Nghymru gyfan, y rhagorir arni gan ychydig yn Lleogr’. Mae’n olrhain llinach Crist o Jesse (tad y Brenin Dafydd) sy’n cysgu mewn gardd furiog ar y gwaelod. Ohono mae coeden achau aml-ganghennog yn tarddu, gyda hynafiaid brenhinol Crist a’r Brenin Dafydd yn dal ei delyn yn y canol. Mae’r ffigurau’n dwyn i gof gardiau chwarae’r ‘llys’ a ddatblygodd i’w ffurf bresennol tua’r adeg y gwnaed y ffenestr ym 1533, sef y dyddiad sydd wedi ei arysgrifo mewn Lladin yn y gornel isaf ar y dde. Ger y pen uchaf, yn y man amlycaf oll, saif y Forwyn a’r plentyn Crist yn llewyrch yr haul.

Gwyddys llawer am y campwaith cain hwn (rhoddir yr hanes yn fanwl mewn llyfryn lliw rhagorol sydd ar gael yn y eglwys). Yn ôl un traddodiad, talwyd amdani gan offrymau’r pererinion, er bod arysgrif yn cofnodi mae rhodd werthfawrogol gan offeriad o’r enw Robert Jones ydoedd. Llwyddwyd i’w chadw rhag ei dinistrio adeg y Rhyfel Cartref drwy ei chladdu mewn cist wedi’i naddu sy’n parhau i sefyll oddi tani. Gwelir mwy o wydr canoloesol yn y ffenestr uwchben y festri. Darnau yn unig sydd ar ôl bellach ac fe’i cysgodir braidd gan wychder y ffenestr Jesse sydd bron yn berffaith. Wedi ei dyddio 1508, mae’n cynnwys rhan o gyfarchiad Gabriel i’r Forwyn Fair. Daethpwyd o hyd iddi mewn ffermdy leol yn ystod y cyfnod Fictoraidd.

Nid y gwydr yw’r unig drysor canoloesol hynod yn Llanrhaeadr. Perthyn i ddau gorff yr eglwys doeon trawstiau gordd gwych sy’n perthyn i tua’r un cyfnod â’r ffenestr Jesse. Addurnir to’r gogledd, lle y lleolir yr allor, ag angylion: mae’n furfio fowt faril a ‘chanopi anrhydedd’ sydd wedi ei gerfio’n gywrain, ac sydd mewn cyflwr da. Mae hon yn enghraifft hynod o gain o’r nodwedd leol. Byddai ei thoeon eu hunain yn gwneud eglwys Sant Dyfnog yn werth ymweld â hi.

Dylai ymwelwyr sicrhau nad ydynt yn colli’r pelican euraid ger y ffenestr Jesse, a gopïwyd ym 1762 o’r aderyn mytholegol sydd wedi ei baentio uwchben pen y Forwyn yn y ffenestr ei hun. Yn bwydo’i adar ifainc gyda’i waed ei hun, mae’n symboleiddio aberth Crist dros ei bobl. Ni ellir anwybyddu ychwaith y gofeb farmor drawiadol o’r ysgweiar Maurice Jones o Blas Llanrhaeadr, a ddangosir yn lled-orwedd yn ei beriwig ‘Brenhines Anne’ ymhlith ceriwbiaid wylofus.

Mae eglwys Sant Dyfnog ar agor yn ystod golau dydd drwy’r flwyddyn fel arfer.

TafarnSiopAtyniad twristaiddCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

yn ôl i coppa

0

Ffenestr Jesse, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch

0

Y Pelican Euraidd, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch

0

Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch