s Llanarmon-yn-Ial, Eglwys Sant Garmon / Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 26

Llanarmon-yn-Ial

Eglwys Sant Garmon

Llanarmon yw prif bentref yr ucheldir a adnabyddir fel Iâl, sy’n golygu ‘tir bryniog’, ac yn y pentref hwn gwelir un o eglwysi hynotaf Sir Ddinbych. Saif mewn mynwent fawr sydd fel grîn pentref, a bu’n safle ‘clas’, neu gymuned grefyddol Geltaidd, a oedd wedi’i chysegru i Sant Garmon, yr enw Cymraeg am Sant Germanus o Auxerre ym Mwrgwyn. Yr oedd yr esgob-ryfelwr hwn o’r 5ed ganrif (c.378 – 448) yn ffigur hanesyddol. Wedi ei anfon i Brydain i frwydro yn erbyn heresi ar ôl i’r llywodraeth Rufeinig ddod i ben, fe’i cafodd ei hun yn rheoli lluoedd lleol dihyder yn erbyn byddin o Bictiaid a Sacsoniaid paganaidd a oedd yn ymosod ar y wlad. Ar ôl gosod rhagod mewn bwlch cul, dywedodd wrth ei ddynion am weiddi “Haleliwia” pan fyddai’n codi’r faner: adleisiodd y waedd sydyn drwy’r bwlch gan beri i’r gelyn ffoi mewn braw (yn ôl Bede), “gan feddwl bod y creigiau a’r awyr yn syrthio ar eu pennau”. Mae’n bosib mai ym Maes Garmon ger y Wyddgrug, neu ym Mwlch yr Oernant – lle y gwelir enw Germanus ar Biler Eliseg (Safle 20) gerllaw – y digwyddodd y “Fuddugoliaeth Haleliwia” hon (tua 429 OC mwy na thebyg).

Parhaodd pererinion i dyrru i gysegrfan Garmon yn Llanarmon hyd at Gyfnod y Tuduriaid, gan gynorthwyo, mwy na thebyg, i ariannau adeiladu’r eglwys fawr a chanddi ddau brif gorff. Fe’i hadnewyddwyd yn sylweddol yn ystod y 1730au, gan roi iddi naws Sioraidd sy’n anarferol yn yr ardal hon. I’r cyfnod hwn y perthyn y ddwy ffenestr fwaog, y porth o arddull Glasurol, y fedyddfan Sioraidd urddasol a’r pileri o goed sy’n gwahanu dau hanner yr eglwys.

Er hynny, erys nifer o nodweddion trawiadol o’r canol oesoedd, gan gynnwys y toeon o goed. Ger yr allor y mae trysor pennaf Llanarmon yn hongian, sef canhwyllyr pres sy’n cynnwys 18 cangen a wnaed yn Bruges (Fflandrys) tua 1500. Mae’n fwy cywrain na’r canhwyllyr tebyg a welir yn Llandegla, ac mae ei dair haen o freichiau deiliog yn cynnwys delw o’r Forwyn Fair; mae’n bosib iddo ddod o Abaty Glyn y Groes, neu o blasty Bodidris gerllaw. Yn sicr, mae dau o arglwyddi Bodidris yn gorwedd yn yr ystlys ddeheuol; marchog o Gymru, Gruffydd ap Llewelyn ap Ynyr, yw’r cynharaf o’r ddau. Mae ei ddelw, sydd mewn cyflwr da ac sy’n dyddio o tua 1320, yn ei ddangos yn gwisgo swrcod cwiltiog dros faelwisg, ei gleddyf yn ei law a’i enw wedi ei arysgrifio ar ei darian. Ar y wal gerllaw gwelir cofeb wych a hynod anghyffredin i’w ddisgynnydd, y Capten Efan Llwyd, a fu farw ym 1639. Erys llawer o’i lliw gwreiddiol ac mae’n dangos y ffigur barfog mewn arfwisg yn lledorwedd mewn cilfach tri bwaog, y tu ôl i arysgrif sy’n cyfnodi ei waith a’i wasanaeth i’r ‘Brenin Siarls yn Ywerddon’. Mae’n anarferol oherwydd ei ddefnydd cynnar o Gymraeg.

Mae’n bosib bod y drydedd gofeb, o offeiriad o’r 14eg ganrif, sydd wedi erydu o ganlyniad i’r cyfnod a dreuliodd yn y fynwent, yn cynrychioli Sant Garmon ei hun. Saif delw hyn ohono y tu mewn i ddrws y fynedfa. Yna, mae dwy hen gist plwyf leol; coffr euraid a gyflwynwyd gan brechennog Castell Gwrych; a sgrîn festri a wnaed o hen gorau bocs. Mwy na digon, yn wir, i annog unrhyw un i ymweld âr eglwys ryfeddol hon.

Mae taflen ar gael a gellir prynu hanes cynhwysfawr o’r pentref (sy’n cynnwys Safle 27) o Swyddfa’r Post gerllaw.

Mae’r eglwys ar agor yn ystod golau dydd fel arfer.

TafarnSiopSwyddfa'r Post

yn ôl i coppa

0

Cofeb i'r Capten Efan Llwyd, Llanarmon-yn-Ial

Eglwys Sant Garmon, Llanarmon-yn-Ial

Eglwys Sant Garmon, Llanarmon-yn-Ial