Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 23

Llanfair Dyffryn Clwyd

Eglwys y Santes Fair a Sant Cynfarch

Mae Eglwys y Santes Fair yn Nyffryn Clwyd wedi ei chysegru i ‘Sant’ Cynfarch hefyd – mae’n debyg mai pennaeth llwyth o ogledd Prydain yn perthyn i Coel Hen ydoedd. Mae’r eglwys fawr hon yn dyddio o’r 15fed ganrif ac mae ganddi ddau brif gorff a thwr trawiadol, sy’n nodwedd anarferol yn yr ardal hon. Yn y fynwent ceir coed yw enfawr, gweddillion hen groes bregethu, ‘ty festri’. Sioraidd a phorth mynwent o goed ac arno’r arysgrif ‘Heb Dduw, Heb Ddim’.

Er bod y tu mewn i’r eglwys wedi ei adnewyddu’n sylweddol, erys rhai nodweddion canoloesol. Mae’r ddau do wedi eu cerfio â chanopïau anrhydedd ar y deupen dwyreiniol – nodwedd leol – ac mae rhan o’r groglen ganoloesol yn parhau i sefyll ger yr ystlys ddeheuol. Wrth yr allor, gwelir cofeb sydd o bosib ddwy ganrif yn hyn na’r gwaith coed hwn. Mae hon wedi’i chadw’n rhyfeddol o dda ac mae’n coffau marchog Cymraeg o ddechrau’r 14eg ganrif. Dafydd ap Madog: mae’n dangos ei law yn dal ei gleddyf, gyda llew sy’n ymdebygu i gath ar ei darian flodeuog. Y nodwedd ganoloesol hynotaf, fodd bynnag, yw’r mosaig o wydr lliw (dyddiedig 1503), mewn ffenestr ddeheuol, sy’n dangos seintiau a thraed Crist wedi eu trywanu â hoelen euraid enfawr.

Yn ôl y traddodiad, yr oedd y gwydr hwn yn y ffenestr fawr uwchben yr allor ar un adeg, a llwyddwyd i’w chadw rhag cael ei dinistrio adeg y Rhyfel Cartref trwy ei chladdu yn y gist dderw haearnwym fawr sy’n sefyll gerllaw. Ceir mwy o wydr canoloesol yn y ffenestr wrth y fedyddfaen, ger y gofeb Elizabethaidd i Thomas ap Rice, a fu farw ‘ar ganiad y ceiliog ar ddydd Sul’ ym 1582. Bydd y llawlyfr ardderchog yn cyfoethogi ymweliad â’r eglwys ddeniadol hon.

Mae’r eglwys ar agor yn ystod golau dydd fel arfer.

SiopTafarn

yn ôl i coppa

0

Eglwys y Santes Fair a Sant Cybfarch, Llanfair DC

0

Cofeb i Farchog Cymreig o ddechrau'r 14eg ganrif, Llanfair Dyffryn Clwyd