Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 22

Llanelidan

Eglwys Sant Elidan

Saif Llanelidan yn bentref bychan gwasgaredig a hardd yn nyffryn Afon y Maes, sy’n isafon i Afon Clwyd. Saif yr eglwys wrth dafarn, wedi ei hamgylchynu gan goed yw a hen gerrig beddi Cymraeg. Mae’r eglwys wedi ei chsegru i sant lleol na wyddys llawer amdano. Wedi ei hadeiladu yn y 15fed ganrif, mae’n cynnwys dau brif gorff, yn unol ag arddull yr ardal, ac mae’n parhau i gadw nifer o nodweddion canoloesol, er gwaethaf gwaith adnewyddu sylweddol yn ystod cyfnod Fictoria. Ceir pâr o ganopïau anrhydedd crymdo dros yr allor, darnau o wydr canoloesol, sef symbolau’r croesholiad mewn tariannau glas uwchben yr allor, ac yn bwysicach oll, gwaith coed cerfiedig rhyfeddol. Mae rhannau o’r groglen ganoloesol (a fu’n gywrain iawn ar un adeg mae’n siwr) wedi eu gosod wrth y pulpud, yn eu plith fwystfilod ar ffurf ceffylau, tariannau crynion cain, a gwinwydd ac aeron eiddew. Perthyn i’r pulpud Jacobeaidd ei gerfiedau ei hun, gyda mwy o baneli sy’n dyddio o’r un cyfnod y tu ôl i’r allor. Mae’r hen gorau bocs, sy’n gofebau i ysgweiriaid Plas Nantclwyd gerllaw, a’r portread teimladwy o’r merthyr Pabyddol lleol, Edward Jones, yn gwneud yr eglwys hon yn werth ei gweld.

Mae’r eglwys ar agor yn ystod golau dydd fel arfer.

Mae’n bosib y bydd rhai pobl benderfynol yn dewis dilyn y ffordd fach gul o Lanelidan i Lanfair Dyffryn Clwyd, gyda chymorth map Arolwg Ordnans, gan fynd heibio i nifer o hen ffermdai a bythynnod hyfryd a bryngaer cynhanesyddol a amddiffynnir gan greigiau naturiol (ar yr ochr chwith, milltir o Lanfair). Fodd bynnag, mae’n haws dychwelyd ar hyd yr A494 a throi i’r dde am Lanfair Dyffryn Clwyd.

Tafarn

yn ôl i coppa

Gwaith coed cerfiedig, Llanelidan

Gwaith coed cerfiedig, Llanelidan