Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 20

Piler Eliseg

ger Llangollen

Yn sefyll ar siambr gladdu isel mewn cae ger Abaty Glyn y Groes, mae’n hawdd colli Piler Eliseg. Er hynny, mae hon yn gofeb o bwys, gan ei bod yn gysylltiad prin gyda chyfnod pwysig yn hanes cynnar Cymru. Safai tuag ugain troedfedd o uchder ar un adeg, gyda chroes ar ei phen; hyn a arweiniodd at alw’r dyffryn cyfan yn ‘Valle Crucis’ sef ‘Glyn y Groes’. Mae arysgrif (sydd bellach bron wedi erydu’n llwyr, ond a gopïwyd dair canrif yn ôl), yn cofnodi i’r gofeb gael ei chodi yn gynnar yn y 9fed ganrif gan Cyngen, brenin annibynnol olaf Powys, er cof am ei hen-daid, Brenin Eliseg, ‘a enillodd dir Powys yn ôl oddi ar y Saeson gyda thân a chleddyf’. Mae’r arysgrif yn honni bod Eliseg yn ddisgynnydd uniongyrchol i Wrtheyrn, a fendithiwyd gan Sant Garmon, ac i’r Ymherawdr Macsen Wledig, un o’r rheolwyr Rhufeinig olaf ym Mhrydain ddiwedd y 4edd ganrif. Mae Gwetheyrn, Garmon a Macsen yn ymddangos mewn chwedlau ochr yn ochr â Myrddin ac Arthur, Hengist Sais a Helen Luyddog, Mae Piler Eliseg, felly, yn gysylltiad balch gyda’r arwyr hyn o gyfnod cynnar Cymru.

Tafarn

Nol i'r top

0

Piler Eliseg