Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 19

Abaty Glyn y Groes

ger Llangollen

Daw enw’r abaty hwn o’r Lladin, Valle Crucis, sef croes Piler Eliseg gerllaw, a saif mewn dyffryn hyfryd wrth odre Bwlch yr Oernant. Dyma’r gweddillion gorau o blith holl abatai Gogledd Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1201 gan y tywysog lleol, Madog ap Gruffydd, ar gyfer myneich Sistersaidd – y Mynaich Gwynion, Mynnai eu rheolau eu bod yn ymsefydlu mewn mannau anghysbell fel hyn. Mae cragen yr eglwys, sydd ar ffurf croes bron yn gaflawn, ac mae ei hochr orllewinol (sy’n wynebu’r ffordd) yn dangos ffenestr bigfain driphlyg gyda ffenestr gron hyfryd uwchben. Mae’r ochr ddwyreiniol – sy’n edrych dros unig lyn pysgod mynachaidd Cymru – yn fwy hynod byth, gyda’i threfniant cain o bum ffenestr bigfain o fewn ffrâm o fwtresi bwaog.

Roedd yr abaty’n un ffyniannus – yn ail i Dintyrn yn Nghymru gyfan o ran ei chyfoeth. Adlewyrchir ei chyfoeth yn y cloestrau dwyreiniol, a ail-godwyd o’r garreg orau yn sgîl tân yn y 15fed ganrif. Mae rhes ddifwlch o fwâu yn arwain at y gysegrfa; y llyfrgell a’i sgrîn o rwyllwaith; a’r cabidyldy – yr ystafel lle’r arferai’r myneich ymgynnull yn feunyddiol i wrando ar bennod o’u rheolau’n cael ei darllen. Y cabidyldy yw un o rannau prydferthaf yr abaty, gyda’i fowt asennog a’i ffenestri rhwyllwaith cain. Uwchben, y mae ystafell gysgu’r myneich, sy’n cysylltu ar un pen â’r toiledau cymunedol ar y llawr cyntaf a ‘drws nos’ ar y pen arall yr arferai’r myneich fynd drwyddo ar gyfer y gwasanaeth boreol am 2.00 o’r gloch y bore. Dyma un o’r wyth gwasanaeth y byddai’n rhaid iddynt eu cynnal bob dydd. Arddangosir yma gasgliad o gofebion i uchelwyr lleol, yn eu plith y mae maen cerfiedig gwych i Fadog, gor-wyr sefydlydd yr abaty a hen-daid Owain Glyndwr.

Yma y bu farw’r bardd Guto’r Glyn (c.1435 – c.1493). Canodd nifer o gywyddau ac englynion i’r Abad Dafydd, a’i ymgeleddodd yn ei ddyddiau olaf.

Mae’n werth treulio cryn amser yn Abaty Glyn y Groes (gyda chymorth y llawlyfr) oherwydd bydd yn rhoi darlun trawiadol o fywydau’r myneich a ddylanwadodd gymaint ar Gymru ganoloesol. Dyma, yn wir, un o drysorau mwyaf Sir Ddinbych ganoloesol.

Ar agor Mai – Medi 10.00 am – 5.00 pm bob dydd.

Tâl mynediad.

Mynediad am ddim i’r gerddi ar adegau rhesymol yn ystod y gaeaf.

Tafarn

Nol i'r top

0

Abaty Glyn y Groes: CADW

0

Cabidyldi Abaty Glyn y Groes: CADW