Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 17

Llangollen

Saif Llangollen, sy’n enwog am ei Heisteddfod Gerddorol Gydwladol, mewn lleoliad hynod brydferth ar lan Afon Dyfrdwy, yng nghysgod Mynyddoedd y Berwyn i’r de a Mynydd Rhiwabon i’r gogledd, gyda Chastell Dinas Brân (Safle 18) yn edrych dros y dref. Bu’r dref yn dynfa i deithwyr ac ymwelwyr ers blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif; yn wir, câi nifer ohonynt eu denu gan y cyhoeddusrwydd a gâi ‘Ledis Llangollen’. Yn ystod y Canol Oesoedd, fodd bynnag, nid oedd Llangollen fawr mwy na phentref mawr, yn bennaf enwog am ei phont garreg (sydd yno hyd heddiw), ac a godwyd tua 1400 mwy na thebyg, ac am ei heglwys, sef Eglwys Sant Collen.

Eglwys Sant Collen

Sefydlwyd yr eglwys gyntaf yn y 6ed ganrif gan Sant Collen, a oedd o dras Gwyddelig a Chymreig, sant y tyfodd nifer o straeon a chwedlau amdano. Dywedir bod Collen, a oedd yn filwr-amddiffynnydd Cristnogaeth ac yn feudwy ar Foel Ynys Wydrin (Glastonbury) wedi hynny, wedi ymddeol yma ar ôl iddo drechu cawres leol a arferai fwyta dynion. Roedd ei feddrod yn y fynwent hyd at ganol y 18fed ganrif pryd y’i dymchwelwyd er mwyn cael cerrig ar gyfer codi’r twr presennol. Dechreuwyd codi’r adeilad presennol yn y 13eg ganrif ond cafodd ei ail-lunio’n sylweddol ym 1864 – 7 ac fe’i newidiwyd o fod ar ffurf corff dwbl i fod yn eglwys draddodiadol ac iddi dair ystlys – sy’n nodwedd brin yn yr ardal hon. Diolch byth, fodd bynnag, fod y pâr gwych o doeon trawstiau gordd wedi cael eu cadw: y maent ymhlith trysorau canoloesol pwysicaf Sir Ddinbych.

Fe’u codwyd tua 1530 ar ôl tân trychinebus a dywedir weithiau (ar gam) bod y campweithiau celf hyn wedi dod o Abaty Glyn y Groes: mewn gwirionedd, fe’u gwnaed yn benodol ar gyfer yr eglwys ac y maent yn dyst trawiadol i falchder a chrefft leol. Y to uwchben yr ystlys ganol yw’r darn mwyaf cywrain: fe’i gorchuddir â chôr o angylion – yn chwythu trwmpedau, yn dal tariannau, cleddyfau, llyfrau a phicelli. Mae’r cerfiadau’n fwy cywrain byth yn y pen dwyreiniol (lle y’i ymgorfforir fel ‘canopi anrhydedd’ uwchben lleoliad gwreiddiol yr allor: mae darnau o’r to wedi’u haddurno, a gwelir cymeriadau duwiol neu ddoniol rhwng yr angylion. (Dangosir nifer o’r cerfiadau hyn mewn taflen arbennig ar gyfer yr ymwelydd.)

Mae to’r ystlys ogleddol yn llai addurnol, ond mae hwn hefyd yn cynnwys angylion a cherfiadau o fwystfilod, adar, pysgod a blodau a hen arysgrif Gymraeg – ‘Y nav i ti, Mair, vydd barod bob awr’.

Mae llawer iawn mwy i’w weld yma, gan gynnwys beddrod y sefydlydd, yn ystlys y gogledd, wedi’i gerfio’n gain yn y 14eg ganrif, yn ogystal â nifer o nodweddion eraill. Ymhlith y mwyaf rhyfeddol y mae’r plac yn yr ystlys ddeheuol i Ledis Llangollen a roddwyd gan Dr. Mary Gordon ym 1937: yn rhyfedd iawn, seilir y cymeriadau ar y rhoddwr a’r cerflunydd, Violet Labouchere, yn hytrach nag ar y ledis eu hunain. Gorwedd y ledis o dan gofeb drionglog y tu allan i ddrws yr eglwys yn ogystal â’u howiscipar annwyl, Mary Carryl.

Plas Newydd.

Saif ‘Bwthyn Rhamantus’ rhyfeddol y Ledis (digon o arwyddion) i’r de-ddwyrain o’r dref. Ymhlith y cywreinbethau a gasglwyd ganddynt y mae coes Croes Uchel ganoloesol o Gaer a’r fedyddfaen o Abaty Glyn y Groes.

Mae’r eglwys ar agor Mai – Medi Llun – Gwener 1.30 – hwyr.

Mae Plas Newydd ar agor Ebrill – Hydref 10.00 am – 5.00 pm bob dydd.

Mynediad olaf 4.15 pm. Tâl mynediad.

Atyniad twristaiddTafarnSiopSwyddfa'r PostGarej/PetrolCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

Nol i'r top

Engrafiad o ddechrau'r 19 ganrif, Dinas Brân and Llangollen: Archifdy Sir Ddinbych

Engrafiad o ddechrau'r 19 ganrif, Dinas Brân and Llangollen: Archifdy Sir Ddinbych

0

To cerfiedig Eglwys Sant Collen, Llangollen

Plas Newydd, Llangollen

Plas Newydd, Llangollen