Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 13

Corwen

Lleolir Corwen rhwng godre Mynyddoedd y Berwyn ac Afon Dyfrdwy ac fe’i haedwaneir fel ‘Croesffordd Gogledd Cymru’. Am ganrifoedd lawer, bu teithwyr ar hyd yr A5, y ffordd o Lundain i Gaergybi, a’r ffordd o’r Bala i Gaer, yn aros yma, yn eu plith fyddinoedd ymosodol neu warcheidiol, porthmyn Cymreig, teithwyr y goets fawr ac ymwelwyr â ffeiriau enwog y dref. Awgryma’r enw ‘Gôr Gwyn’ neu ‘Eglwys Wen’ ac mae ei gwreiddau’n dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, pryd y tyfodd o gwmpas cymuned grefyddol a sefydlwyd gan seintiau o dras Llydewig a Chymreig, sef Mael a Sulien. Gwelir trysorau Corwen o gwmpas eglwys y plwyf, a enwyd ar ôl y ddau sant.

Eglwys Sant Mael a Sulien

Dechreuwyd codi’r eglwys yn y 13eg ganrif a saif ychydig oddi ar y brif stryd mewn mynwent o goed yw o dan fryn coediog. Gosodwyd maen hir cynhanesyddol ym mhorth yr eglwys – ‘Carreg y big yn y fach rhewllyd’, sy’n awgrymu, efallai, fod y fangre hon yn safle cysegredig paganaidd pan ddaeth Mael a Sulien yma. I’r dde o borth yr eglwys saif coes dal croes bregethu, a’i phen toredig yn dangos rhwyllwaith cerfiedig; efallai ei bod yn dyddio o‘r 9fed ganrif. Gosodwyd carreg hynafol arall yn gapan ar ddrws y dehau yng nghornel bella’r eglwys. Cerfiwyd croes fel dagr arni, croes a gerfiwyd gan arf Owain Glyndwr pan gafodd ei thaflu yn ei dymer o’i ‘Sedd’ ar fryn Pen-y-Pigyn y tu ôl i’r eglwys yn ôl y sôn. Dyffryn Dyfrdwy oedd cartref teulu’r arwr hwn o Gymro a chofir yn dda amdano yng Nghorwen; codwyd cerflun iddo yn sgwâr y farchnad yn gymharol ddiwedar.

Cafodd y tu mewn i’r eglwys ei newid yn sylweddol yn ystod cyfnod Fictoria. Ymhlith yr hyn o oroesodd o’r cyfnod canoloesol y mae’r fedyddfaen hynafol o’r 12fed ganrif, cist anferth o goed a chofeb gerfiedig ysblennydd (mewn cilfach ger y allor) i offeiriad o’r 14eg ganrif. Gorwedd Iorwerth Sulien, yn urddwisg yr offeren ac yn dal cwpan cymun, o dan arysgrif sy’n erfyn am ein gweddïau.

Saif bryngaer Caer Drewyn o’r Oes Haearn ar fryn i’r gogledd-ddwyrain o’r dref y tu hwnt i’r Ddyfrdwy, ac mae’n ymgorffori gweddillion aneddiadau canoloesol. Gellir cyrraedd y fryngaer ar hyd llwybr sy’n dechrau ger y Pwll Nofio a’r Ganolfan Hamdden.

Mae’r eglwys ar agor yn ystod golau dydd, Ebrill – Hydref gan amlaf.

Atyniad twristaiddTafarnSiopSwyddfa'r PostGarej/PetrolCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

Nol i'r top

Engrafiad o ddechrau'r 19 ganrif, Corwen: Archifdy Sir Ddinbych

Engrafiad o ddechrau'r 19 ganrif, Corwen: Archifdy Sir Ddinbych

Croes Bregethu, Corwen

Croes Bregethu, Corwen