Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 12

Llangar

Eglwys yr Holl Sant

Cyfarwyddiadau:

Gwelir arwydd i’r eglwys ar ffordd y B4401 o Gorwen i’r Bala (arwydd Cynwyd). Parciwch yn y gilfan ac ewch i lawr y llwybr caregog ger y nant, ewch heibio i’r ty a chwiliwch am giât ac arwydd arni ar y dde. Yna fe welwch yr eglwys. Nid yw’r llwybr yn addas ar gyfer pobl anabl neu fethedig. Gellir gweld y tu mewn i’r eglwys drwy ffenestr y dwyrain.

Mae’n werth cerdded i lawr y llwybr at eglwys unig Llangar oherwydd ei lleoliad delfrydol uwchben y man lle y mae Afon Alwen yn uno ag Afon Dyfrdwy; lleolir y fynwent ar oleddf serth ac mae’r beddfeini’n haenau brith-draphlith. Yn ôl y chwedl, ‘Llan Garw Gwyn’, oedd yr enw gwreiddiol, sef y carw hudol a ddiflannai ac a ysbrydolodd ei sefydlu. Heddiw, mae’r tu allan i’r eglwys wedi cael ei pheintio’n wyn, fel mwyafrif yr eglwysi lleol hyd at y cyfnod Fictoraidd. Mae’r olwg dwt sydd arni (ac yn wir ei goroesiad) yn ganlyniad i’r gwaith achub a wnaed gan CADW ar ôl dros ganrif o esgeulustod a dirywiad.

Mae gwaith adfer gofalus CADW wedi cadw addurniadau Sioraidd Llangar: y pulpud trillawr uchel; y corau bocs ar gyfer bonedd a’r meinciau garw ar gyfer meidrolion y llawr; yr ‘oriel ganu’ a’i stondin gerdd bedair-ochrog. Darganfuwyd nifer o nodweddion cynharach yn ogystal, megis y to coed canoloesol a’i ‘ganopi anrhydedd’ ar ffurf crymdo uwchben yr allor. Ail-ddarganfuwyd ac adferwyd wyth haen o furluniau, yn amrywio o seintiau canoloesol a ‘Phechodau Marwol’ mewn fframiau o goed peitiedig i lun Angau o’r 18fed ganrif, gyda’i bicell, awrwydr ac offer torrwr beddau. Dyma, felly bum canrif o hanes yn cael eu dadlennu heb amharu ar awyrgylch grymus y man unig, hudolus hwn.

Agorir yr eglwys rhwng 2.00 pm a 3.00 pm o’r gloch (Mercher – Sul) a gellir cael mynediad iddi drwy drefnu ymlaen llaw gyda cheidwad Capel Rug (Safle 11).

Mae llawlyfr ar gael.

Nol i'r top

0

Llangar

0

Llangar