Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 9

Betws Gwerfil Goch

Eglwys y Santes Fair

Saif pentref bychan anghysbell Betws Gwerfil Goch – ‘ty gweddi Gwerfil Goch’ – mewn dyffryn serth ar fordd hynafol y pererinion ar draws Cymru. Saif y ‘ty gweddi’ yng nghanol y pentref; yn ôl y traddodiad, fe’i sefydlwyd ar gyfer pererinion gan y Dywysoges Gwerfil o Feirionnydd yn y 12fed ganrif, wyres walltgoch y brenin Owain Gwynedd o Ogledd Cymru. Ail-godwyd ei heglwys yn y 15fed ganrif a’i hadfer ym 1879. Gwnaed y porth o dri maen mawr ac mae’r tu mewn i’r eglwys yn hynod ddiddorol.

Ymhlith y pethau pwysicaf yn yr eglwys y mae’r paneli cerfiedig y tu ôl i’r allor, sy’n unigryw ym Mhrhydain. Fe’u gwnaed tua diwedd y 15fed ganrif ac y maent yn dangos golygfa’r croesholiad. Arferent fod yn rhan o ‘groglen’ ar un adeg (gweler Derwen Safle 6): dinistriwyd miloedd ohonynt yn ystod y Diwygiad Prostestannaidd gan y credid eu bod yn gyfystyr ag eilunaddoliaeth. Taflwyd llawer ohonynt gan ‘adferwyr’ diweddarach. Llwyddwyd i gadw paneli Betws oherwydd bod y pentref mor anghysbell efallai, ac fe’u hail-ddarganfuwyd ym 1840 o dan ‘domen sbwriel’. Er eu bod wedi’u cerfio’n amrwd, y maent yn wefreiddiol. Maent wedi’u treulio gan amser, ac efallai gan bererinion, a dengys y tri phanel canolog Grist dan gwfl (o dan y geiriau Lladin ‘Ecce Home’ – ‘Wele’r Dyn’). Ar y naill ochr iddo y mae ffigurau Sant Ioan y Disgybl Annwyl a’r Forwyn Fair yn wylo. Ar y ddwy ochr gwelir symbolau’r Groes – morthwyl, gwaywffon, pastwn, gefail, hoelion a choron ddrain.

Mae’r paneli eu hunain yn teilyngu ymweliad, ond y mae llawer mwy i’w weld. Mae’r groglen bresennol yn un ddiweddar ond gellir gweld gweddillion yn un wreiddiol, sy’n cynnwys bwystfilod a blodau cerfiedig, yn y to ar naill ochr i’r allor. Mae gan y to canoloesol gwych ei gerfiadau ei hun, yn enwedig y llew a’i fwng llaes uwchben y pulpud. Mae canhwyllyr ysblennydd a hynod anghyffredin yn crogi o’r to, un wedi’i gwneud o goed turnedig a breichiau pres ac sy’n dyddio o’r 17eg neu’r 18fed ganrif mwy na thebyg; mae lampau olew Fictoraidd gerllaw. Mae’r pulpud Sioraidd a’r corau cadarn, yr harmoniwm, y cofebion Cymreig a christ-sedd y warden i gyd yn gwneud Eglwys y Santes Fair yn un o’r eglwysi gorau yn yr ardal o ran ei hawyrgylch; ar ben hyn fodd bynnag, y mae’n parhau i gael ei defynyddio’n gyson fel ‘ty gweddi’.

Gellir cael allwedd ar gyfer yr Eglwys.

Sylwer: Maer Eglwys yn gartref i deulu o ystlunod a warchodir a gall y rhain fod yn boendod yn ystod yr haf..

yn ôl i coppa

Panel o'r Groglen, Betws Gwerfil Goch

Eglwys y Santes Fair, Betws Gwerfil Goch