Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 4

Efenechtyd

Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion

Wedi ei lleoli yng nghanol clwstr o hen dai mewn dyffryn dwfn ac anghysbell, eglwys fechan iawn mewn pentref hardd yw eglwys Sant Mihangel. Mae’r fynwent gron a’i choed yw yn nodweddiadol o’i thras Geltaidd ac mae’n bosib i’r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu gan fynachod o gymuned St. Saeran yn Llanynys (Safle 46): gallai’r enw ‘Efenechtyd’ olygu ‘lle’r mynachod’. Mae’r adeilad presennol – sy’n ddim ond ugain troedfedd o led, a’r eglwys ail leiaf yn esgobaeth Llanelwy – yn dyddio o’r 13eg ganrif mwy na thebyg, ond fe’i adferwyd yn sylweddol ym 1873.

Mae’r drws hynafol, gyda’i gnocer haearn ar ffurf sbardun, yn arwain at heddwch a symlder y tu mewn. Y trysor hynotaf yw’r bedyddfan bren ganoloesol, sef un darn crwn o dderw gyda phedair ochr ar ddeg dros gylch o leinwaith: hwyrach mai copi lleol o’r 15fed neu’r 16eg ganrif o’r bedyddfannau carreg a oedd yn boblogaidd yr adeg honno ydyw. Mae’r rheilen furfylchog isel, sydd ger yr allor ac sy’n dyddio o ddiwedd yr oesoedd canol, yn rhan o groglen (gweler Derwen Safle 6), ond mae’r ffenestr ddwyreiniol yn hyn ac efallai’n dyddio o tua 1300.

Ymhlith nodweddion eraill o bwys sy’n perthyn i gyfnod diweddarach y mae darnau prin o furlun Cymreig o’r Deg Gorchymyn (o’r cyfnod Elisabethaidd neu Jacobeaidd yn ddiau) a chofeb o bren i Catherine Lloyd (1810) sy’n cynnwys ceriwbiaid a phenglog ac esgyrn croes. Mae’r gofeb Sioraidd i Joseph Conway’n cynnwys arfbais deuluol ‘dyn du’: gwelir pennau tebyg ar gatiau ei dy (preifat), Plas-yn-Llan, ychydig gamau o giât yr eglwys. Enw’r garreg gron ger y fedyddfaen yw ‘Maen Camp’, a ddefnyddid gynt mewn ‘campau’ neu chwaraeon lleol ar Ddydd Sant Mihangel, 29ain Medi. Arferai Samsoniaid y pentref ymdrechu i’w thaflu’n ôl dros eu pennau: peidiwch chi â cheisio gwneud hynny, da chi!

Mae’r Eglwys ar agor i ymwelwyr gan amlaf.

yn ôl i coppa

Eglwys Sant Mihangel, Efenechtyd

Bedyddfan o goed, Efenechtyd