Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 1c

Llanrhydd

Eglwys Sant Meugan

Cyfarwyddiadau:

O ganol Rhuthun, neu o’r ffordd osgoi, dilynwch yr arwyddion am yr Ysbyty. Ar ôl mynd heibio i’r ysbyty, cymerwch y ffordd ar y chwith ac ewch syth ymlaen am hanner milltir.

Saif Eglwys Sant Meugan mewn pentref gwledig bychan tua milltir o ganol y dref a hon oedd mam eglwys wreiddiol yr anheddiad Cymreig a ddatblygodd maes o law yn Rhuthun. Gwelir nifer o addurniadau nodedig yn yr adeilad bychan hardd sy’n dyddio o’r 15fed ganrif ac sydd wedi ei gysegru i sant meudwyaidd o Gaerleon yng Ngwent. Yr un pwysicaf yw’r groglen hyfryd, a ddaliai groes ar un adeg (gweler Derwen Safle 6). Mae’n dyddio o ddechrau’r 1500au mwy na thebyg ac mae’r enghraifft odigog hon o waith saer lleol wedi ei cherfio’n gain gyda rhwyllwaith cywrain sy’n dangos aeron eiddew ar hyd y rheilen uchaf – sy’n nodweddiadol o Ddyffryn Clwyd. Mae’r Galeri Sioraidd orllewinol gyferbyn, sy’n dyddio o 1721, (ar gyfer côr a band yr eglwys) yn brinnach – tynnwyd mwyafrif galerïau’r ardal gan bobl cyfnod Fictoria.

Mae bwrdd addurnedig yr allor, sy’n dyddio o’r 17eg ganrif, ac sy’n cael ei warchod gan ddau lew sy’n sefyll, yn brinnach byth.

Ar waliau gerllaw y mae cofebau diddorol i deulu Thelwall, a ddaeth i Ruthun gyda’i benarglwyddi, de Grey. Mae’r hynaf yn dyddio o gyfnod Elizabeth, sef John a Jane Thelwall a’u deg mab a’u pedair merch. Enwir y plant i gyd ac mae rhai ohonynt yn dal penglogau i ddangos eu bod wedi marw cyn eu rhieni. Coffheir y nawfed mab, Ambrose, mewn penddelw cain hefyd. Bu’n llyswr i dri brenin o gyfnod y Stiwartiaid, a daeth yma i ymddeol yn ystod cyfnod cythryblus rheolaeth y Gwerniniaethwyr. Bu farw ym 1653.

Yn y fynwent ger y porth deheuol, saif coes naw troedfedd a berthynai i groes bregethu ganoloesol; ac yn y gornel ogledd-ddwyreiniol gwelir carreg fedd ‘Alfred Corbett, Tramp’, cymeriad poblogaidd a fu farw ym 1947. Mae arweinlyfr da ar gael yn yr eglwys.

Agorir Eglwys Sant Meugan drwy drefniant ymlaen llaw.

Ffoniwch y Cloestrau ar (01824) 702068.

yn ôl i coppa

Aeron eiddew, Llanrhydd

Manylion o gofeb teuluThelwall

Engrafiad o Ddyffryn Clwyd o'r 19eg ganrif: Archifdy Sir Ddinbych

Cofeb teulu Thelwall