Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Safle 1

Rhuthun

Mae Rhuthun, sy’n golygu ‘caer goch’, yn un o drefi hanesyddol harddaf Gogledd-Ddwyrain Cymru. Dechreuodd fel anheddiad Cymreig ar grib strategol uwchben afon Clwyd, gyda’r fam eglwys i’r dwyrain yn Llanrhudd (Safle 1c isod). Yna, yn dilyn degau o flynyddoedd o anghydfodau, daeth o dan reolaeth Lloegr ym 1282, a chodwyd castell cadarn yma (1b). O dan ei pherchenogion newydd, sef y teulu barwnol de Grey, datblygodd Rhuthun yn gymuned Eingl-Gymreig ffyniannus, gydag eglwys fawr (1a) a marchnad brysur. Er i Owain Glyndwr prif elyn yr Arglwydd Grey, losgi’r dref ym 1400, datblygodd yn gynyddol ffyniannus yn ystod cyfnodau cynnar Oes y Tuduriaid ac Oes Elizabeth, pryd y disgrifiwyd hi fel ‘y dref farchnad fwyaf yn y Dyffryn, yn llawn trigolion gyda digonedd o adeiladau.’ Bydd y disgrifiad byr hwn yn canolbwyntio ar yr adeiladau hynaf, gan ddechrau yn y farchnad ar ben y bryn, sef Sgwâr San Pedr.

Yr adeilad hynaf yw’r Hen Lys (Banc y National Westminster bellach). Fe’i codwyd ym 1401 – ar ôl ymosodiad Glyndwr – fel canolfan weinyddol, llys a charchar. Y tu mewn gellir gweld hen drawstiau cadarn y to, a’r tu allan, ar y gornel ogledd-orllewinol, y mae gweddillion trawst y grocbren. Adeiladau o ffrâm bren yw’r ddau fanc arall sydd gerllaw hefyd, ond codwyd y rhain yn y 1920au. O flaen Banc Barclays mae Maen Huail. Yn ôl y traddodiad, hwn yw’r maen lle y dienyddiodd y Brenin Arthur ei wrthwynebydd serch, a gafodd ei ddisgrifio fel cawr, lleidr a sant. Ar draws y sgwâr y mae Gwesty’r Castell, adeilad mawr Sioraidd, sy’n sefyll wrth ochr y Myddelton Arms, sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg, gyda’i dri llawr o ffenestri dormer a ddisgrifir fel ‘Saith Llygad Rhuthun’. Gerllaw, a heibio i dy arall o ffrâm bren, y mae gatiau haearn gyr hyfryd eglwys San Pedr a wnaed gan y Brodyr Davies, y cerfftwyr enwog o’r Bers.

Clôs yr Eglwys. Mae awyrgylch clôs eglwys gadeiriol fechan yn perthyn i’r adeiladau deniadol y tu ôl i Eglwys San Pedr. Yn wreiddiol, prynwyd ‘coleg’ yr offeiriaid canoloesol gan Ddeon Goodman at bwrpasau elusennol. Yr Hen Gloestr gyda’i ffenestri pigfain yw’r darn hynaf ac mae wedi ei gysylltu â’r eglwys. Mae rhan ohono’n Deml i’r Seiri Rhyddion a rhan ohono’n ystafelloedd cerdd bellach. Yn wreiddiol, dyma lety cymunedol yr offeiriaid. Ar ongl sgwâr i’r Cloestr y mae adeilad yr Ysgol Ramadeg o’r 18fed ganrif a gyferbyn â hwn y mae un llawr yr elusendai ‘ysbyty’ (wedi eu hadfer), a sefydlwyd gan Goodman ar gyfer deg o ddynion a dwy ddynes a olchai’r dillad.

Ar gornel bellaf Sgwâr San Pedr, mae Stryd Y Castell, y stryd harddaf yn Rhuthun. Mae’n dechrau gyda’r Wine Vaults colofnog a’r Corporation Arms atyniadol gyda’i dalcen sy’n dwyn i gof adeiladau’r Iseldiroedd. Gerllaw, y mae Ty Syr John Trevor, sydd wedi ei rendro’n binc, gyda’i dalcen o bren, yna adeilad mawr a thrawiadol Ty Nantclwyd a’i borth crog. Bu’n gartref i’r Deon Goodman am gyfnod, ond yn wreiddiol, ty neuadd o’r 14eg ganrif ydoedd ac mae’n un o dai tref hynaf Gogledd Cymru. Ar ben y stryd y mae’r porth Fictoraidd i dir Castell Rhuthun, sydd bellach yn westy.

Ar ben uchaf Stryd y Ffynnon, a elwid yn ‘Welsh Street’ ar un adeg gan fod Cymry Rhuthun yn ffafrio’r rhan hon o’r dref, y mae rhes hardd o siopau o ffrâm bren, yn eu plith ‘Siop Nain’, lle yr argraffwyd anthem genedlaethol Cymru gyntaf ym 1860. Yn Stryd Clwyd Uchaf gellir gweld ar y siop lyfrau, sy’n dyddio’n wreiddiol o’r 15fed ganrif, arfbais eryr deuben teulu Goodman, ac ar hyd Stryd Clwyd, mae nifer o dai a chanddynt ffryntiau o ffrâm bren, yn enwedig o gwympas Gwesty’r Eagles. Ar y gwaelod, gyferbyn â’r Hen Garchar, y mae’r drofa i Stryd y Felin, a Melin Y Dref, sy’n dyddio o’r 13eg ganrif. Fflatiau yw’r rhain bellach ond gellir gweld ei ffenestri pigfain gwreiddiol o hyd.

Mae’r adeiladau hyn, yn ogystal ag adeiladau sy’n dyddio o gyfnod diweddarach, yn cael eu cynnwys mewn dwy daith gerdded drefol a ddisgrifir yn Crwydro Rhuthun, sydd ar gael o Ganolfan Croeso’r Ganolfan Grefftau, ar y ffordd osgoi.

Atyniad twristaiddTafarnSiopSwyddfa'r PostGarej/PetrolCaffi/bwyty/man/ bwyta rhagor na thafarn

Nol i'r top

Stryd y Castell, Rhuthun

Ty Nantclwyd, Rhuthun

Melin Tref Rhuthun fel yr oedd ym 1856: Archifdy Sir Ddinbych

O Rholiau Llys cynharaf Rhuthun, 1294: Trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Siarter Brehinol Ysgol Rhuthun, 1595. Mae cofnodion trethi clerigol 1292 yn dangos bod ysgol yn Rhuthun, yn cael ei rhedeg gan frodyr ynghlwm wrth eglwys golegaidd Sant Pedr: Drwy garedigrwydd Ysgol Rhuthun

Syr Thomas Exmewe, ganwyd yn Rhuthun tua 1454-1529, Arglwydd Faer Llundain 1517, wedi ei bridoli i John Bettes: Gyda charedigrwydd Llyfrgwll Neuadd y Dref, Llundain