Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Eglwysi Plwyf Canoloesol

Ei heglwysi plwyf yw trysorau canoloesol mwyaf niferus Sir Ddinbych. Hwy, hefyd, yw gogoniannau mwyaf y sir, a’r mannau sy’n ein dwyn agosaf at ei phobl ganoloesol. Efallai bod cestyll mawr Dinbych a Rhuddlan yn fwy ysblennydd, ac eglwys Abaty Glyn y Groes ac eglwys gadeiriol Llanelwy yn fwy o ran eu maint a’u hurddas. Ond codwyd y rhain gan ac ar gyfer arglwyddi’r ardal – rhai brenhinol, barwnig neu offeiriadol o’r tu allan. Codwyd yr eglwysi ar gyfer y bobl leol a addolai yno (a chanddynt hwy gan amlaf), ac yr oedd y bobl hyn yn eu hystyried gyda chryn falchder.

Fe wêl yr ymwelydd fod dau fath sylfaenol o eglwysi yma. Mae rhai, yn enwedig yr eglwysi sydd mewn mannau anghysbell, yn adeiladau bychain, syml megis Efenechtyd (Safle 4) neu Betws Gwerfil Goch (Safle 9). Ond mae eglwysi ardaloedd ffynniannus Dyffryn Clwyd a Bryniau Clwyd, yn fwy ac y mae iddynt arddull nodweddiadol, sef ‘eglwys dau gorff’’. Adwaenir yr eglwysi llydain, eang hyn, sy’n cynnwys dau hirsgwar cyfochrog wedi’u rhannu gan res o bileri, fel ‘eglwysi Dyffryn Clwyd’. Er eu bod yn niferus yn Sir Ddinbych – mae mwy nag ugain ohonynt, a chynhwysir tair ar ddeg ohonynt yn y llawlyfr hwn – y maent yn hynod brin yng ngweddill Prydain. Maent yn gwbl ddieithr i ymwelwyr ac y maent yn teilyngu gair o eglurhad.

Rhaid dweud yn gyntaf na chafodd yr eglwysi hyn eu codi fel adeiladau ‘dau gorff’ o’r cychwyn cyntaf; yn hytrach, canlyniad ydynt i ehangu ochrol ar yr eglwysi gwreiddiol drwy ychwanegu ail gorff hirsgwar ochr yn ochr â’r un a oedd yno eisoes, a thrwy hynny ddyblu maint yr adeilad. Digwyddodd yr ehangu hwn yn ystod cyfnod byr o hanner canrif yn ddieithriad bron, sef rhwng tua 1480 a thua 1540, sef yn ystod cyfnod heddychlon a ffyniannus teyrnasiad y Tuduriaid rhwng Rhyfeloedd y Rhosynnau a chyffro’r Diwygiad Protestannaidd. Ond bu cryn ddyfalu pam yr helaethwyd yr eglwysi yn y dull anghyffredin hwn – pam y crëwyd dwy eglwys gyfochrog, megis, yn hytrach na helaethu un pen o’r adeilad, neu adeilad, neu adeiladu dwy fraich ar ffurf croes?

Cynigiwyd pob math o eglurhad am yr eglwys ‘dau gorff’. Dywed rhai bod y ddau gorff wedi cael eu hadeiladu gan ddau deulu gwrthwynebus, neu bod yn y naill ar gyfer addoli ynddo a’r llall yn llety ar gyfer pererinion, neu bod y porthmyn yn lletya yn y naill ystlys tra bo’r anifeiliaid yn y llall. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth i gadarnhau’r damcaniaethau hyn. Mae’r syniad fod y ddau gorff wedi cael eu cysegru i wahanol saint yn fwy credadwy, neu bod y naill yn cynnwys allor nawddsant yr eglwys a bod y llall yn cynnwys un i’r Forwyn Fair. Unwaith eto, prin yw’r dystiolaeth i gefnogi hyn, a dim ond dwy eglwys dau gorff sydd wedi cael eu cysegru i ddau sant, ac o’r rhain, dim ond un (Llanfair Dyffryn Clwyd Safle 23) sydd wedi’i chysegru i’r Forwyn Fair.

Eglurhad mwy dieneiniad, efallai, ond un mwy tebygol, yw bod codi ‘dau gorff’ yn ddull rhatach a chymharol haws o ehangu eglwys, ac nid oedd angen llawer o newidiadau i’r adeiladwaith. Dim ond un wal o’r adeilad gwreiddiol yr oedd yn rhaid ei thynnu i lawr, ac o ganlyniad llwyddid i ddyblu maint y llawr; roedd y golau’n well yn sgîl gosod dwy ffenestr ddwyreiniol (a allai ddangos rhagor o wydr lliw). Roedd dau do o faint cymesur yn gyfrwng i hwyluso defnyddio arbenigedd canoloesol arall yr ardal, sef cerfio cain (gweler Toeon a Chroglenni).

Pam, felly, y codwyd eglwysi dau gorff yn Nyffryn Clwyd ac nid mewn manau eraill? Efallai mai dylanwad ffasiwn yw’r ateb. Yn rhannau eraill o Brydain ganoloesol, er enghraifft, tyrrau mawr oedd y ffasiwn – fel yn Ne-Orllewin Lloegr – neu feindyrrau tal fel yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Efallai y gwêl yr ymwelydd fod tyrrau canoloesol yn lled anghyffredin yn Sir Ddinbych ac nad yw meindyrrau canoloesol yn bodoli o gwbl. Yn yr ardal hon, mae’n amlwg mai eglwysi dau gorff oedd yn ffasiynol. Mwy na thebyg y cychwynnodd hyn yn Eglwys San Pedr, Rhuthun (Safle 1a), sef eglwys gyfoethog ac urddasol canolfan Dyffryn Clwyd, a’r eglwys ‘dau gorff’ gyntaf.

Wedyn daeth Eglwys Llanfarchell, Dinbych (Safle 31). Yna, dyma rai o’r pentrefi cyfoethocaf, fesul un, (neu eu sgweieriaid), yn codi eglwysi dau gorff rhag i’r trefi a’u cymdogion cyfagos ragori arnynt. Pa ffordd well o ddangos balchder cymuned, i gadw i fyny â’r ffasiwn, a gwneud mwy o le ar gyfer seremonïau – ac ar yr un pryd sicrhau lle yn y Nefoedd? (Gweler hefyd Toeon a Chroglenni – Gogoniannau Gwaith Coed Sir Ddinbych.)

Nol i'r top

Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch

Eglwys Sant Dyfnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch

Eglwys y Santes Fair, Betws Gwerfil Goch