Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Owain Glyndwr

Owain Glyndwr (tua 1359 – tua 1417) yw arwr enwocaf Sir Ddinbych. Cymerodd ei enw o’i ystadau o gwmpas Glyndyfrdwy – rhwng Corwen a Llangollen – ac arweiniodd y gwrthryfel olaf yn erbyn teyrnasiad Lloegr; bu bron iddo lwyddo i wneud Cymru’n wlad annibynnol. Roedd yn dirfeddiannwr cyfoethog, canol oed, fe’i addysgwyd yn Llundain a chafodd yrfa ddisglair ym myddin ac yn llynges Lloegr; yn wir, yr oedd yn arweinydd annisgwyl ar wrthryfel. Fodd bynnag, yr oedd yn ddisgynnydd i dri theulu o dywysogion, ac ef, yn ôl y beirdd, oedd gwaredwr ei bobl.

Pan ddygodd yr Arglwydd Grey o Ruthun ran o’i ystad, apeliodd Owain am iawn i’r Brenin Harri IV a’i gysylltiadau personol yn y Senedd – cafodd ateb negyddol a dirmygus. Ymatebodd yn gwbl sydyn gan ddatgan ei hun yn Dywysog Cymru ar 16eg Medi 1400 – ar safle Tomen Owain Glyndwr (Safle 15) yn ôl y traddodiad. Yna, cymerodd fyddin fach benderfynol gan ymosod ar Ruthun (Safle 1) a’i llosgi – a oedd yn llawn ymwelwyr â ffair flynyddol – gan symud ymlaen wedyn ac ymosod ar Saeson Dinbych (Safle 32), Rhuddlan (Safle 36), Y Fflint, Penarlâg, Holt, Croesoswallt a’r Trallwng o fewn wythnos. Yna fe’i trechwyd yn llwyr gan filwyr Lloegr a dychwelodd i’r bryniau gyda dyrnaid o’i ddilynwyr.

Er yr ymddangosai fod y gwrthryfel drosodd yn fuan, o’r braidd yr oedd Owain Glyndwr wedi dechrau. Ymledodd y newyddion drwy Gymru ac i Loegr a denwyd myfyrwyr o Gymru a oedd yn Rhydychen, a gweithwyr yn Lloegr, adref i ymuno o dan ei faner. Yn y cyfamser, gweithredodd llywodraeth Loegr gyfreithiau gwrth-Gymreig yn llym – ond canlyniad hyn oedd cynyddu’r gefnogaeth i Owain Glyndwr. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ymosododd yn sydyn ar wahanol rannau o Gymru gan ddiflannu o flaen lluoedd rhagorach Lloegr ac ymddangos eto ym mhen arall y wlad. Ym 1402, cafodd lwyddiant ysgubol – a ragfynegwyd gan gomed danllyd. Ym mis Ebrill, syrthiodd ei arch-elyn, yr Arglwydd Grey, i’w fagl – a’i ddal yn wystl am swm anferth a dalwyd maes o law – ac ym mis Mehefin ymosododd ar fyddin Seisnig ym Mhyllalai, Sir Faesyfed, gan ddal eu harweininydd, Edmund Mortimer.

Ar ben hyn, pan ymosododd lluoedd dialgar Lloegr ar Owain, fe’u gyrrwyd yn ôl gan dywydd garw. Dinistriwyd pafiliwn y Brenin gan storm sydyn. Credid mai dewiniaeth gyfrwys Owain oedd yr unig eglurhad am hyn – chwedl y cyfeirir ati gan Shakespeare yn ei ddrama Henry IV Part I.

Ym mis Mai, 1403, dechreuoedd mab ifanc y Brenin, y Tywysog Harri – Harri V yn ddiweddarach – ymddangos fel gwrthwynebydd cadarnaf Owain Glyndwr ac ymosododd ar ei diroedd yn Sir Ddinbych mewn cyrch sydyn a hynod ddinistriol. Ond gwnaed iawn am hyn yn sgîl llwyddiannau yn ne-orllewin Cymru lle y daliodd Owain gastell ar ôl castell. Enillodd gymheiriaid pwerus newydd yn ogystal, yn eu plith Edmund Mortimer (a briododd â merch Owain Glyndwr), a’i frawd-yng-nghyfaith enwog, ‘Harri Danbaid’.

Gwelwyd pinacl llwyddiannau Owain Glyndwr ym 1404 a 1405. Yr oedd yn llwodraethu dros ranau helaeth o Gymru eisoes, a phan ildiodd cestyll cadarn y Saeson yn Aberystwyth a Harlech iddo, yr oedd yn llywodraethwr diamheuol o Aberteifi i Gaernarfon. Felly dechreuodd weithredu fel tywysog cydnabyddedig, gan alw Senedd ym Machynlleth a Harlech, llunio rhaglen ar gyfer eglwys annibynnol yng Nghymru ac ar gyfer dwy brifysgol. Bu’n cynnal trafodaethau ar Gytundeb gyda gelyn Lloegr, Brenin Ffrainc, yn enw ‘Owain, Tywysog Cymru drwy ras Duw’. Llwyddodd hwn i ddwyn ffrwyth gobeithiol, os nad dros dro, pan gyrhaeddodd llu o Ffrancod o Chymry o fewn wyth milltir i Gaerwrangon – ond cilio fu eu hanes yn sgîl cyrch diganlyniad yn erbyn byddin Lloegr.

Pylodd goruchafiaeth Owain wedi hynny. Syrthiodd ardaloedd pellennig ei dywysogaeth i ddwylo’r Saeson yn sgîl pwysau gan y Tywysog Harri; syrthiodd Castell Aberystwyth ym 1408, a Harlech ym 1409 – ar ôl iddo gael ei daro gan fagnelau trymion Lleogr – gan adael gwraig Owain Glyndwr a’i ferched yn nwylo’r Saeson. Pylodd ei fri, ond ymddengys fod tiroedd ei gyneidiau yn Sir Ddinbych wedi aros yn deyrngar iddo, ac oddi yno y lansiodd ei ymsodiad mawr olaf ar ffiniau Swydd Amwythig ym 1410: bu’n fethiant llwyr ac yr oedd y gwrthryfel drosodd.

Fodd bynnag, yr oedd Glyndwr yn parhau’n rhydd a gwrthododd y cyfamodi a’r pardwn a gynigiwyd iddo ym 1415 gan ei hen wrthwynebydd, y Brenin Harri V. Diflannodd yn fuan wedi hynny. Mwy na thebyg ei fod wedi marw erbyn 1417, ac efallai ei fod yn gorwedd ger cartref ei ferch yn Swydd Henffordd. Ond ni wyddom i sicrwydd a chredai rhai Cymry cyfoes nad oedd wedi marw o gwbl. Os yw’n parhau i huno (fel y Brenin Arthur) hyd oni wêl ei wlad wir angen amdano, erys y cof amdano’n fyw: yn enwedig yn nhiroedd ei hynafiaid o gwmpas Corwen (Safle 13).

Nol i'r top

Sel fawr Owain Glyndwr’s (y cefn): Trwy ganiatad Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Cofeb i hendaid Owain Glyndwr’, Abaty Glyn y Groes

Gosodiad harnais efydd euraid yn dangos arfbais Owain Glyndwr, a ddarganfuwyd yng Hghastell Harlech: Trwy ganiatad Amgueddfa Genedlaethol Cymru