Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Pwerdy Cymru’r Dadeni

Yn ystod y ganrif a hanner rhwng Rhyfeloedd y Rhosynnau a’r Rhyfel Cartref (1480 – 1640), cynhyrchodd Sir Ddinbych fwy o gymeriadau nodedig nag unrhyw ran arall o Gymru. Ffynnai’r beirdd yma, cyfieithodd ysgolheigion a chanddynt gysylltiad â Llanelwy y Beibl i’r Gymraeg a daeth Humphrey Lhuyd o Ddinbych yn ‘Dad Daeryddiaeth Fodern’. Yn y cyfamser, ymledodd grwp o wyr bonedd masnachol, a oedd yn perthyn i’w gilydd, o’r wlad i ymgyfoethogi yn Lloegr – yn y llys ac ymhellach i ffwrdd – gan ddychwelyd adref yn aml i gyhoeddi eu llwyddiant ar ffurf tai crand a chofebau ysblennydd. Gadawodd teuluoedd Myddleton a Salusbury, Dinbych, teulu Goodman, Rhuthun a’r llyswyr Thelwall o Lanrhudd eu hôl ar hanes Prydain ac ar yr adeiladau sydd wedi goroesi yn Sir Ddinbych. Felly hefyd y cymeriad arbennig Syr Rhisiart Clwch o Bachegraig, pumed mab menigwr o Ddinbych, a fu’n llwyddiannus yn Antwerpen ac a fu farw dramor; ond sicrhaodd fod ei galon a’i law dde yn cael eu hanfon mewn cist arian i’w claddu yn eglwys y plwyf, Llanfarchell (Safle 31).

Ymhlith yr holl wyr hynod hyn, ni ddylid anghofio am wraig hynod – Catrin o Ferain. Priododd yr aeres hon o Sir Ddinbych (a oedd yn gyfnither o bell i’r frenhines Elisabeth) aelod o deulu Salusbury, Syr Rhisiart Clwych, ac yna aelod o deulu Wynn ac o deulu Thelwell, ac esgorodd ar gynifer o ddisgynyddion uchelwrol, fel y’i gelwir yn ‘Fam Cymru’.

Nol i'r top

Cofeb i Ambrose Thelwall, Llanrhudd

Cofeb i Ambrose Thelwall, Llanrhudd

Catrin o Ferain gan Adriaen Van Cronenburgh: Trwy ganiatad Amgueddfa Genedlaethol Cymru