Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Toeon a Chroglenni

Gogoniannau Gwaith Coed Sir Ddinbych

Gwnawn allor a chor a merch wen a chwyr

A cherygl a nenbren

A main nadd a cherfio’i nen

Dyma eiriau’r bardd Lewys Môn yn gynnar yn ystod y 1500au, a oedd yn lleisio penderfyniad pobl Llangollen i ailgodi eu heglwys ar ôl iddi gael ei difrodi gan dân. Mae’r to cerfiedig cain a wnaed yn sgîl hyn ymhlith gweithiau celf godidocaf y canol oesoedd ym Mhrydain, sy’n brawf trawiadol o grefftwaith cerfwyr a seiri coed lleol. Yn wir, y mae gwaith coed o safon yn nodwedd amlwg yn nifer o eglwysi Sir Ddinbych.

Yn eu toeon o goed y gwelir hyn amlycaf. Byddai’r rhai yn Eglwys Llanfarchell yn Ninbych ac yn eglwys Rhuthun, er engraifft, yn nodedig yn unrhyw le ac mae eglwysi rhai pentrefi eraill (er yn llai) yn cymharu’n ffafriol; mae toeon Llanrhaeadr, er engraifft, yn arbennig o gain. Efallai y gwêl ymwelwyr debygrwydd teuluol yn perthyn i rai o doeon eglwysi Sir Ddinbych ac yn wir maent oll yn perthyn i’r un cyfnod (tua 1480 – 1540). Adwaenir y mwyafrif ohonynt fel ‘toeon trawstiau gordd a bwaog-gleddyfog’ ac mewn nifer o achosion, addurnir y trawstiau gordd ag angylion cerfiedig – gellir gweld un yn agos yn Llangynhafal. Yn ogystal, mae gan nifer ohonynt ‘ganopïau anrhydedd’ ar ffurf fowt faril sydd wedi eu cerfio’n arbennig o gain, sy’n pwysleisio sancteiddrwydd yr allor oddi tanynt.

Roedd crefft y cerfwyr lleol yn amlwg yn y pyrth o goed hefyd (megis yn Llanrhaeadr) ac yn y croglenni hardd a gynhalia’r grog (y groes) a wahanai’r allor oddi wrth y gynulleidfa. Gwelir yr enghraifft fwyaf nodedig yn Nerwen, lle y gwelir y groglofft yn ogystal. Unwaith eto, gwelir tebygrwydd teuluol, sy’n dynodi gwaith yr un cerfiwr neu’r yn grwp o gerfwyr. Yr oedd y motiff anghyffredin o ‘aeron eiddew’ yn ymblethu, er enghraifft, yn nodweddiadol o’r crefftwyr a wnaeth y croglenni yng Nghlocaenog, Llanrhudd a Llanelidan. Mae paneli gwefreiddiol y groglen ym Metws Gwerfil Goch, fodd bynnag, yn unigryw gan eu bod wedi goroesi’r difrod a wnaed i groglenni yn ystod cyffro’r Diwygiad Prostestannaidd.

Yna, trodd y cerfwyr lleol eu sylw at wneud addurniadau eraill – megis pulpudau, (yn Llanelidan neu yn Llangynhafal er enghraifft); rheiliau allor (Dinbych); a byrddau cymun (Dinbych eto a Llanrhudd). Mae’r gwaith coed rhyfeddol o’r 17eg ganrif sydd i’w weld yng Nghapel Rug yn profi bod eu harbenigedd wedi parhau yr un mor gain; fe’n hatgoffir yno hefyd fod llawer o waith coed cerfiedig wedi ei beintio’n lliwgar. Yn wir, parhaodd y traddodiad gwaith coed hyd at y cyfnod Sioraidd ac wedi hynny – fel y gwelir o’r canhwyllyrau pren yn Llanynys, Clocaenog a Betws Gwerfil Goch; y ‘pelicanod’ yn Llangynhafal a Llanrhaeadr; ac mewn sawl cadair, cist a chôr cain sy’n parhau i addurno eglwysi Sir Ddinbych.

Nol i'r top

Aeron eiddew, Llanelidan