Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol

  • ymchwil

Y Berfeddwlad

Drwy gydol y canol Oesoedd, gwlad ar y gororau oedd y rhan fwyaf o’r ardal a ddisgrifir yn y llyfryn hwn, ac ar y cyfan gwlad y bu ymrafael amdani ydoedd. Yr hen enw ar rannau helaeth o’r ardal oedd ‘Y Berfeddwlad’, sef y tir rhwng tywysogaethau Gwynedd i’r gorllewin a Phowys i’r de; gorweddai hefyd rhwng Lloegr a chefn gwlad Gogledd Cymru. Rhannwyd y Berfeddwlad yn ardaloedd o’r enw ‘Cantrefi’, sef cant o drefi neu anheddiadau, ac y mae eu holion i’w gweld hyd heddiw. Roedd Pedwar Cantref yn y gogledd: Rhos rhwng Elwy a Chonwy; Tegeingl ar hyd yr arfordir rhwng Rhuddlan ac aber Afon Dyfrdwy; Rhufoniog fynyddig, a’i ganolfan yn Ninbych, a’i is-ardal yng Nghinmeirch; a Dyffryn Clwyd, yr ardal ffrwythlon honno o gwmpas Rhuthun. Ymhellach i’r de, rhwng Corwen a Llangollen, yr oedd cantref Edeyrnion; tua’r dwyrain yr oedd cantref Iâl – a oedd i roi ei enw i brifysgol yn yr Unol Daleithiau ganrifoedd yn ddiweddarach.

Pan ddatblygodd Cymru yn y Canol Oesoedd cynnar ar ôl teyrnasiad y Rhufeiniaid – yn ystod cyfnod tywyll a chwedlonol Oes Arthur – yr oedd Y Berfeddwlad yn destun ymrafael rhwng rheolwyr lleol eisoes. Honnai’r penaethiaid hyn – fel y cofnodir ar Biler Eliseg (Safle 20) – eu bod yn ddisgynyddion i’r Ymherawdwyr Rhufeinig a’r arwyr a sefydlodd genedl y Cymry, a cheisient fendith Cristnogaeth. Dyma hefyd Oes y Saint, pryd y sefydlodd llu o ddynion a merched duwiol yr eglwysi sy’n parhau i arddel eu henwau. Fodd bynnag, yr oedd bygythiad newydd ac arswydus yn datblygu yn y dwyrain, sef yr Eingl-Sacsoniaid paganaidd a oedd yn ymledu tua’r gorllewin. Ar y dechrau, brenhinoedd Powys – dynion megis Cyngen ac Eliseg – a wynebodd eu hymosodiadau; yna, ar ôl eu gwanychu ganddynt, dyma wynebu rheolwyr cadarn Gwynedd, a lwyddodd i’w rhwystro yn aber Afon Clwyd.

Ar ôl 1066, fodd bynnag, adfywiwyd y bygythiad o’r dwyrain gan filwyr cadarn y Normaniaid; arweiniwyd eu hymgyrch gan wyr y Mers, pobl megis Robert o Ruddlan, a gododd gaer fawr ‘Twthill’ yno. Erbyn 1100, ymddangosai fel petai’r peiriant rhyfel Normanaidd, sef cestyll a marchogion, yn debygol o oresgyn nid yn unig Y Berfeddwlad ond Cymru gyfan yn ogystal. Yna, wrth i’r Cymry ymosod yn gadarn dan arweiniad tywysogion Gwynedd, llwyddwyd i wthio’r goresgynwyr yn ôl ac ail-sefydlwyd ffin i’r dwyrain o’r Berfeddwlad a’i gwarchod gan gaerau megis Tomen-y-Rhodwydd (Safle 24) a Thomen-y-Faerdre (Safle 27).

Ond nid oedd yr ymrafael drosodd, fodd bynnag. Drwy gydol y 12fed a’r 13eg ganrif, bu tywysogion Cymru ac Eingl-Normaniaid y Mers (gyda chefnogaeth ymyrraeth brenhinoedd Lloegr ar adegau) yn ymgecru’n ysbeidiol am oruchafiaeth Y Berfeddwlad. Y Cymry a orfu ar y cyfan ac yn ystod cyfnod o heddwch sefydlodd tywysog lleol Abaty Glyn y Groes (Safle 19) ym 1201. Cadarnhawyd Llwelyn Ein Llyw Olaf yn Dywysog Gwynedd ym 1267 a’i gydnabod yn ffurfiol gan y Saeson fel Tywysog Cymru a rheolwr cydnabyddedig Y Berfeddwlad..

Cafwyd trychineb ddeng mlynedd yn ddiweddarach fodd bynnag. Ymosododd y Brenin Edward I gyda byddin rymus o Saeson gyda chefnogaeth lluoedd y Mers a nifer o Gymry gwrthryfelgar (yn eu plith yr oedd brawd Llywelyn, Dafydd) gan yrru Llywelyn yn ôl i gadernid Gwynedd. Cododd Edward gestyll megis Rhuddlan (Safle 36) er mwyn ei gadw dan reolaeth. Bu Dafydd yn teyrnasu dros Y Befeddwlad am rai blynyddoedd, ond trodd ar ei gymheiriaid Seisnig ym 1282 ac arweiniodd at orchyfgu Cymru gyfan – gan gynnwys Y Berfeddwlad – gan adael y wlad i gyd o dan reolaeth y Saeson.

Er mwyn dal ei afael ar Gymru, comisiynodd Edward ei swyddogion i godi cestyll newydd, gan roi Dinbych (Safle 32) i Henry de Lacy, Iarll Lincoln, a Rhuthun (Safle 1b) i Reginald de Grey. Dyma ganolfannau newydd ‘arglwyddiaethau’ Seisnig y Mers. Codwyd trefi caerog yng nghysgod muriau’r cestyll ar gyfer mewnfudwyr o Loegr er mwyn cyflenwi’r cestyll ac, yn bwysicach na hynny, er mwyn sefydlu trefedigaeth Seisnig mewn gwlad wedi’i gorchfygu. I’r canolfannau Seisnig hyn yr heidiodd gwladychwyr o ystadau’r arglwyddi o ogledd Lloegr: mae’n werth sylwi bod nifer o’r teuluoedd a ddaeth yn amlwg yn yr ardal – teulu Goodman, Myddelton, Thelwall, Salesbury a Clough – i gyd yn dwyn enwau Saesneg. Priododd eu disgynyddion â theuluoedd lleol maes o law, ond gwrthwynebid eu presenoldeb (a’u manteision masnachol) yn hallt ar y cychwyn. Ar ôl ymrafael ar y dechrau, fodd bynnag, cadarnhawyd goruchafiaeth y Saeson dros Y Berfeddwlad yn heddychlon.

Bu’n gymarol heddychlon yn ystod y 14eg garnif a dyma pryd yr ailgodwyd Eglwys Gadeiriol Llanelwy (Safle 35); dyma hefyd adeg sefydlu eglwysi megis Eglwys San Pedr, Rhuthun (Safle 1a), a chodi cofebion coeth i Gymry a Saeson fel ei gilydd fel yn Nhremeirchion (Safle 40) ac yn Llanarmon-yn-Iâl (Safle 26).

Ym mlwyddyn gyntaf y 15fed ganrif, fodd bynnag, dyma’r gwrthwynebiad i lywodraeth y Saeson. A fu’n mudlosgi cyhyd, yn ffrwyddro a dechreuwyd Gwrthyfel Owain Glyndwr. Gwnaed difrod mawr yn yr ardal gan y ddwy ochr am gyfnod o rai blynyddoedd: er enghraifft, llosgodd Owain nid yn unig drefi Dinbych a Rhuthun, ond Eglwys Gadeiriol Llanelwy hefyd; yr un pryd, dinistriwyd tir Owain yn nyffyn Dyfrdwy. Yn araf iawn y gwellodd pethau a châi’r adferiad hwn ei lesteirio gan aflywodraeth remp a oedd yn boendod ar hyd y Gororau ganol y 15fed ganrif. Cyrhaeddodd hyn ei anterth gyda Rhyfeloedd y Rhosynnau, pryd yr ymosodwyd ar Gastell Dinbych dair gwaith (cadarnle’r Iorciaid) ac y llosgwyd tref Dinbych ddwywaith. Nid tan fuddugoliaeth olaf Harri Tudor, yr hanner Cymro, y dechreuodd Y Berfeddwlad, o’r diwedd, ar gyfnod maith o heddwch a ffyniant.

Blodeuodd Y Berfeddwlad yn ystod yr hanner can mlynedd rhwng 1490 a 1540 fel diffeithwch ar ôl glaw. Fe wêl defnyddwyr y llawlyfr hwn nad gormodiaith mo hyn oherwydd y mae mwyafrif llethol y trysorau canoloesol yn perthyn i’r cyfnod hwn. O’r deg eglwys ar hugain a ddisgrifir, er enghraifft, ailgodwyd, ehangwyd neu addurnwyd nid llai nag ugain ohonynt yn ystod y cyfnod hwn. Dyma pryd y gosodwyd holl wydr lliw canoloesol yr ardal a oedd wedi goroesi, felly hefyd y toeon, y croglenni a gwaith coed cerfiedig arall, sydd mor enwog yn Y Berfeddwlad. (Eglwysi Plwyf Canoloesol, Toeon a Chroglenni.)

Yr oedd Y Berfeddwlad ar fin cael ei hail-enwi, fodd bynnag, oherwydd yr oedd newidiadau syfrdanol i’r Eglwys a’r Wladwriaeth ar droed rhwng 1536 a 1543. Y newid cyntaf oedd y Diwygiad Prostestannaidd, a ddinistriodd nifer o drysorau eglwysig canoloesol ond a gyfoethogodd nifer o dirfeddianwyr lleol y daeth tiroedd y mynachdai i’w dwylo. Yr un pryd, pasiwyd y Deddfau Uno, a ddileodd anffafriaeth gyfreithiol y Canol Oesoedd yn erbyn y Cymry a rhoi iddynt gynrychiolaeth yn y Senedd am y tro cyntaf.

Rhannwyd Gororau canoloesol Cymru – a oedd yn cynnwys Y Berfeddwlad – yn siroedd newydd. Felly daeth Y Berfeddwlad yn Sir Ddinbych.

Ffynnodd uchelwyr, masnachwyr a chlerigwyr y Sir Ddinbych newydd yn sylweddol o dan y drefn newydd. Agorwyd llwybrau newydd tuag at ffyniant – fel ynadon neu aelodau seneddol; fel gwyr llys neu wyr busnes; fel esgobion neu ddeoniaid. Ac er i newidiadau crefyddol olygu nad oeddynt yn adeiladu neu’n addurno eglwysi, dangosent eu cyfoeth mewn tai ysblennydd a chofebau drudfawr. Yn wir, yn ystod cyfnod y Tuduriaid a blynyddoedd cynnar y Stiwartiaid, daeth Sir Ddinbych yn Bwerdy Cymru’s Dadeni, gan ymddihatru o’r canol oesoedd yn ogoneddus.

Sylwer: * erthygl ar wahan.

Nol i'r top

Adeiladu'r Domen yn Hastings (1066) fel y'i gwelir yn Nhapin Bayeux. Tad Robert o Ruddlan oedd yn gyfrifol am y gwaith adeiladu yno: CADW

Castell Dinas Bran, Llangollen: Photo John Marjoram

Map Llwyd o Gymru, 1573: Trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Siarter Dinbych, 1510: Denbighshire Record Office

Syr Thomas Myddleton, 1586-1666: Trwy ganiatad Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Y Waun

Porth y Bwrdeisiaid, muriau tref Dinbych